O Iesu mawr ei ddawn, Tydi wyt ffynnon lawn O ras a hedd, ond gwel'd dy wedd Gorfoledd pur a gawn; Dy enw mawr trwy'r nef a'r llawr, Sy'n glodfawr iawn erioed: Ti faeddaist lu, uffernol hy', Ar Galfari, ac angeu du Ga'i drechu dan dy droed. Ei waed rhinweddol E', Wrth farw yn ein lle, Dywalltai'n lli ar Galfari, Heddychodd ni â'r Ne': O'i galon friw caed dyfroedd byw, Wna'r dua'i liw yn lân; Ei foli wnawn yn felus iawn, Ei ras a'i ddawn yw'r testyn llawn, Mae'n gyfiawn Iddo'r gân.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83 Tôn [6686.86886]: Erfyniad (<1875) |
O Jesus greatly gifted, Thou art a full spring Of grace and peace, only to see thy countenance Pure joy I would get; Thy great name throughout heaven and earth, Is the most worthy of praise ever: Thou didst beat a host, of hellish pride, On Calvary, and black death Got overcome under thy foot. His virtuous blood On dying in our place, Poured out as a stream on Calvary, It reconciled us with Heaven: From his wounded heart living waters came, That make the blackest in colour clean; Let us praise him very sweetly, His grace and his gift are the full theme, The song is rightly His.tr. 2018 Richard B Gillion |
|