O Iesu mawr y Meddyg gwell

1,(2,3),4;  1,3,4,5,8,9,(10,11);  1,3,4,6;  1,3,9,4,5;
1,3,9,10;  1,4,((6),7),2;  1,4,6,(7,8),2.
O Iesu mawr y Meddyg gwell,
Gobaith yr holl ardaloedd pell,
  Dysg fi i seinio maes dy glod,
  Mai digyfnewid wyt erioed.

Fe gaiff dy Enw anwyl glod,
Pan ddarffo i'r nef a'r ddaear fod,
  Am achub un mor wael ei lun,
  Nad all'sai ei achub ond dy hun.

Rho i mi wel'd mai ti yw'm hedd,
A llwyr ddifyru
    ar dy wedd:
  A chym'ryd gair dy enau_i gyd,
  Yn unig bleser yn y byd.

O hoelia 'meddwl ddydd a nos,
Crwydredig, wrth dy nefol groes; 
  A phlana'm hysbryd yn y tir,
  Sy'n llifo o lawenydd pur.

Nid yw pleserau pena'r byd,
Yn deilwng o fy serch a'm mryd;
  Un wên o eiddo
      Mhrynwr cu,
  Sydd ganmil gwell
      na'r rhai'n yn llu.

Fel bo fy nwydau drwg yn lân
Yn cael eu difa_â'r nefol dân,
  A chariad yn melysu'r groes
  Drwy olwg ar dy farwol loes.

Ti fuost farw, rhyfedd yw,
Er mwyn cael o'th elynion fyw;
  Derbyn i'th gôl,
      a rho ryddhad
  I'r sawl a brynaist ti
      â'th waed.

Doethineb anfesurol sy,
A gallu anfeidrol ynot ti;
  A phob cyflawnder sy'n dy ran,
  Sy'n eisiau ar fy enaid gwan.

Par fod dy ogoniant pur dilyth,
Yn nôd a diben i mi byth:
  Dy fywyd hardd a'th eiriau gwir,
  Yn wastad i mi'n rheol bur.

Rho i mi lechu yn dawel glyd,
Tu hwnt i sŵn fy meiau i gyd;
  Uwch twrf a themtasiynau'r llawr,
  Tan gysgod dy
      gyfiawnder mawr.

Disgwyliaf oes del seren wawr,
Sy'n arwain hyfryd
    olau mawr;
  Fe gwyd y wawr,
      mae addewid wir,
  Câf wel'd fy nghartre' cyn bo hir.

O tyred awr, o tyred ddydd,
I'm henaid i gael myn'd yn rhydd;
  Carcharor wyf mewn anial wlad,
  Sy'n disgwyl beunydd am ryddhad.
ardaloedd :: ynysoedd
Dysg fi i :: Dywg imi
seinio maes :: seinio byth
gair dy enau i gyd :: d'eiriau gwerthfawr drud
phlana'm hysbryd :: phlanna f'hysbryd
Drwy olwg :: Trwy edrych
farw :: marw
brynaist ti â'th waed :: brynaist â dy waed

- - - - -
1,2,3;  1,2,4,5.

O Iesu mawr, y Meddyg gwell,
Gobaith yr holl ynysoedd pell,
  Dysg imi seinio maes dy glod,
  Mai digyfnewid wyt erioed.

Gad imi brofi'th nefol hedd,
Ac ymddifyru yn dy wedd;
  A syllu ar dy wyneb-pryd
  Fo'm hunig bleser yn y byd.

Par fod D'ogoniant pur, dilŷth,
Yn nôd a diben i mi byth:
  Dy fywyd hardd a'th eiriau gwir,
  Yn wastad i mi'n rheol bur.

Pan fyddwy'n teimlo rhin dy waed
Yn golchi meiau mawr yn rhad,
  Fy nghalon wan enyna'n wir
  Yn ddysglaer fflam o gariad pur.

Pryd hyny f'enaid fentra'n hy
I ddyfroedd yr Iorddonen ddu;
  Caf seinio concwest
      drwyddo'n llon
  Yn nghanol tònau geirwon hon!

             - - - - -

O Iesu mawr y Meddyg gwell,
Gobaith yr holl ynysoedd pell,
  Achubydd bywyd gwaeled ddyn,
  Gwrando fy nghwyn er mwyn dy hun.

Ger bron y drugareddfa fawr
Yn crymmu o flaen dy faingc i lawr,
  Gwel y pechadur dua ' gaed
  Yn brefu am rinweddau'th waed.

Mae ynot ryw anfeidrol stôr
O ras a doniau fel y môr;
  O gad i'r truenusa'n fyw
  Gael maddeu ei
      bechod mawr a byw.

Cymmer fi, Iesu, fel yr wyf
Cuddia fi yn dy farwol glwyf,
  Can's dyna graig
      y gwnaf fy nyth,
  'Does neb yn ofni yno byth.

Dy bur maddeuol gariad rhad
Dadguddia i mi nefol Dad;
  A boed im' hyspryd tra f'wi byw
  Lyna wrth groes fy Arglwydd gwiw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angel's Hymn / Cân 34 / Song 34
    (Orlando Gibbons 1583-1625)
British (<1878)
Brynteg (J A Lloyd 1815-74)
Carey (H Carey 1692-1743)
Constance (Claude Goudimel 1510-72)
Duke Street (John Hatton 1710-1793)
Eden (T B Mason 1801-61)
Fulda (Sacred Melodies 1812)
Gilead/Samson (G F Handel 1685-1759)
Glanllwyfnwy (Emlyn Davies 1870-1960)
Maryton (H Percy Smith 1825-98)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Myrddin (Harry Evans 1873-1914)
Nantglyn (<1875)
Otterbourne (F J Haydn 1732-1809)
Pool-Street (<1829)
Spires (Martin Luther 1483-1546)
Ulverston (<1845)
Whitburn (Henry Baker 1835-1910)

gwelir:
  Ar dy enw di Greawdwr byd
  Dyma gyfarfod hyfryd iawn
  Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd
  Mae ynot ti O Dduw ryw 'stôr
  O hoelia 'meddwl ddydd a nos
  O Nertha'm henaid gwan ei ffydd
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw
  'R wyf yma Arglwydd wrth Dy draed
  Rho i mi wel'd mai ti yw'm hedd

 
 
O great Jesus, the better physician,
The hope of all the distant regions,
  Teach me to sound out thy praise,
  Thou art unchanging always.

Thy dear name will get praise,
When heaven and earth cease to be,
  For saving one so base his condition,
  None could heal him but thyself.

Grant me to see that thou art my peace,
And completely to delight
    in thy countenance:
  And take all the word of thy mouth,
  As the only pleasure in the world.

O fix my thought day and night,
Wandering from thy heavenly cross; 
  And plant my spirit in the ground,
  Which flows from pure joy.

The chief pleasures of the world are not
Worthy of my affections and my attention;
  One smile belonging to
      my dear Redeemer,
  Is a thousand times better
      than a host of those.

So may my evil passions completely
Get exterminated by the heavenly fire,
  And love sweetening the cross
  Through looking on thy mortal anguish.

Immeasurable wisdom there is,
And infinite power in thee;
  And every fulness is in thy portion,
  Of which my weak soul is in need.

Thou hast died, it is amazing,
In order to get thy enemies to live;
  To receive to thy breast,
      and give freedom
  To those thou hast bought
      with thy blood.

Cause thy glory to be unfailingly,
An aim and purpose for me forever:
  Thy beautiful life and thy true words,
  Always to me a pure rule.

Grant me to hide quietly, cosily,
Beyond the sound of all my sin;
  Above the din and temptations of earth,
  Under the shade of thy
      great righteousness.

I will wait until the star of dawn comes,
Which is leading a delightful,
    great light;
  The dawn will rise,
      there is a true promise,
  I will get to see my home before long.

O let the hour come, O let the day come,
For my soul to get to go free;
  A prisoner I am in a desert land,
  Who is waiting daily for freedom.
regions :: islands
sound out :: sound forever
::
all the word of thy mouth :: thy costly valuable words
::
::
::
::

- - - - -
 

O great Jesus, the better physician,
The hope of all the distant islands,
  Teach me to sound out thy praise,
  That thou art unchanging always.

Let me experience thy heavenly peace,
And find comfort in thy countenance;
  And to gaze upon thy face
  Be my only pleasure in the world.

Cause thy glory to be unfailingly,
An aim and purpose for me forever:
  Thy beautiful life and thy true words,
  Always to me a pure rule.

When I am feeling the virtue of thy blood
Washing my great faults freely,
  My weak heart enkindle truly
  In a bright flame of pure love.

Then will my soul venture boldly
Into the water of the black Jordan
  I will get to sound conquest
      through it gladly
  Among those rough waves!

                - - - - -

O great Jesus, the better Physician,
Hope of all the distant islands,
  Saviour of the life of abject man,
  Listen to y complaint for thy own sake.

Before the great mercy seat
Trembling down before thy throne,
  See the blackest sinner ever found
  Bleating for the merit of thy blood.

In thee there is some immeasurable store
Of grace and gifts like the sea;
  O let the most wretched ever alive
  Get forgiveness of his
      great sins and live.

Take me, Jesus, as I am
Hide me in thy mortal wound,
  Since there is a rock
      I will make my nest,
  There is no-one fearing there ever.

Thy pure, forgiving, free love
Forgive me heavenly Father;
  And let my spirit while ever I live
  Stick to the cross of my worthy Lord.
tr. 2009,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~