O Iesu mwyn, ni allwn ni, Yn wastad ryngu bodd i ti; Ein mynych ofnau ar y daith Lesgâ ein hysbryd yn dy waith. Dy Efengylwr gynt a droes Yn ôl o'r daith ym more oes; Drachefn y dug dy arfaeth ef I rodio llwybrau glân y nef. Cyfeiria'n traed, cryfha ein ffydd, I'th ddilyn di o ddydd i ddydd; Tydi yw'r Ffordd, a digon yw I'n tywys i drigfannau Duw. Er gwyro weithiau ar y daith, A syrthio arni lawer gwaith, Dychwelir ni ond profi blas Dy gariad di a nerth dy ras. Rhyw ddydd ein gyrfa ddaw i ben, A'r nos a ffy dan loywach nen; Goffwysfa ddaw i'r neb a ŵyr Am y goleuni yn yr hwyr.J Davies (Isfryn) 1861-1948
Tonau [MH 8888]: |
O gentle Jesus, we cannot, Constantly please thee; Our frequent fears on the journey Weaken our spirit in the work. Thy Evangelist once turned Back from the journey in his early days; Again thy purpose brought him back To walk the holy paths of heaven. Direct our feet, strengthen our faith, To follow thee from day to day; Thou art our Way, and sufficient it is To lead us to the dwellings of God. Although swerving sometimes on the journey, And falling on it many a time, We are brought back only to experience a taste Of thy love and the strength of thy grace. Some day our course shall come to an end, And the night shall flee under a brighter sky; Rest shall come to anyone who knows About the light in the evening.tr. 2019 Richard B Gillion |
|