O Iesu'r Bugail da, Fu'n dyodde' ar y gro's, Fy enaid brefu wna Am danat hanner nos: Fy nghalon friw, yn ddeffro ca', I'mddiddan â f'Anwylyd gwiw. Tyr'd arwain fi'n y blaen, Nes myn'd i ben fy nhaith, Er dyfroedd mawr a thân, Nertha fi orphennu'm gwaith; Fy ffyddlon Ffrynd moes im' dy law, I'r Ganaan draw gad i mi fyn'd. F'Anwylyd gwel' fy mod, Oddi wrth fy ngartre' mhell, Hiraethu'r wyf am dd'od, O fewn i'r wlad sydd well; 'Rw'i yma'n byw mewn anial dir, Ar oriau'n hir heb wel'd fy Nuw. Ys truan wyf pa fodd 'Arosaf îs y nen? F'anwylyd Iesu ffodd I mewn i'r nefoedd wen: O d'wed pa bryd ca' finnau fod Yn canu clod yn Seion glyd.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [666688]: Bethesda (<1811) |
O Jesus the good shepherd, Who suffered on the cross, My soul shall bleat For thee at midnight: My bruised soul, awake shall get, To converse with my worthy Beloved. Come lead me onwards, Until going to my journey's end, Despite great waters and fire, Strengthen me to finish my work; My faithful Friend give me thy hand, To yonder Canaan let me go. My Beloved, see that I am Far away from my home, Longing I am to come Within the land that is better; I am here living in a desert land, For long hours without seeing my God. Indeed a wretch I am, how Shall I remain below the sky? My beloved Jesus fled Into the bright heavens: O tell when I too may be Singing praise in secure Zion.tr. 2019 Richard B Gillion |
|