O Iesu'r meddyg da, Iachâ fy enaid caeth, A sicr seilia fi ar y Graig Sydd uwchlaw'r ddraig a'i saeth; Am ddiangc wyf i'th gôl, Mae'n f'ol elynion griw, O cofia mod mewn anial wlad, A char fi'n rhad tr'wy' byw. Sodoma, 'r Aipht, y man Croeshoeliwyd 'r anwyl Oen, Yn mhell o olwg Canaan wiw, 'Rwy'n byw mewn dygn boen, Yn mhlith gelynion haid, Bydd im' yn blaid, fy Nuw; O cofia mod, &c. Ar lan y llyn yn wir Y bum yn hir a maith, Yn dyfal ddysgwyl gwneyd yn iach, Fy enaid bach oedd gaeth; Un olwg ar dy waed Roiff im' iachad o'm briw; O cofia mod, &c. Fy mhechod maddeu clyw, Er cymaint yw eu rhif; Mae afon bur (o'th ystlys rad) O ddwr a gwaed yn llif; Ac yma golch fi'n lân, Fel gwello'm ffiaidd friw; O cofia mod, &c. Bydd im' yn dirion ffrynd; Rhaid im' gael myn'd yn rhydd: P'odd gallai aros yma'n hwy? Fy nghlwyfau'n fwy-fwy sydd, Ond llefain wnaf hyd fedd Am hyfryd hedd fy Nuw; O cofia mod, &c N'âd i mi ofni mwy Fyn'd trwy'r anialwch maith; Er gwaetha'r lluoedd sydd îs nen, Dwg fi i ben fy nhaith: Cysura'm calon wan, A sypiau'r Ganaan wiw! O cofia mod mewn anial wlad, A char fi'n rhad tr'wy' byw. - - - - - O Iesu'r meddyg da, Iacha fy enaid caeth; A sicrhâ fi ar y graig Uwchlaw y ddraig a'i saeth: Am ddiangc 'rwyf yn nes I fynwes bûr fy Nuw, O llanw fi mewn anial wlad, A'th gariad tra f'wi byw. Pererin llesg a llaith, Dechreuais daith oedd bell, Trwy lu o elynion mawr eu brâd, Gan geisio gwlad sydd well: Am ffoi mae f'enaid tlawd At f'anwyl Frawd a'm pen, Yn Salem fry, par'to fy lle Mewn llys tu fewn i'r llen. Mae 'mrodyr uwch y nen Yn canu ar ben eu taith, Er hyn hwyrfrydig iawn fum i, Ag oedi lawer gwaith: Ond bellach tyn fi'n ddwys, Ar Grist rho bwys fy mhen, Yn Salem fry, par'to fy lle, Mewn llys o fewn i'r llen.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [MBD 6686D]: Vermont (<1811) gwelir: Fy ngweddi dos i'r nef Mae tywyll anial nos Mi a ddarfyddaf mwy Pererin llesg a llaith |
O Jesus the good physician, Heal my captive soul, And securely establish me on the Rock Which is above the dragon and his arrow; I want to escape to to thy bosom, After me is a band of enemies, O remember that I am in a desert land, And love me freely while ever I live. Sodom, Egypt, the place The dear Lamb was crucified, Far from the sight of worthy Canaan, I am living in intense pain, Amongst a swarm of enemies, Be my protection, my God, O remember that I am etc. Beside the lake truly I was for a long and tiresome time, Devotedly expecting to be made whole, My little soul was captive; One look at thy blood It gave me healing from my wound; O remember that I am etc. Hear to forgive my sins, Despite how great is their number; There is a pure river (from thy gracious side) Of water and blood as a flood; And here wash me clean, That my detestable bruise be healed; O remember that I am etc. Be to me a tender friend; I must get to go free: How could I stay here any longer? My wounds are more and more, But cry I shall as far as the grave For the delightful peace of my God; O remember that I am etc. Do not let my fear any more Going through the vast desert; Despite the hosts that are under the sky, Lead me to my journey's end: Comfort my weak heart, With the clusters of worthy Canaan! O remember that I am in a desert land, And love me freely while ever I live. - - - - - O Jesus the good physician, Heal my captive soul; And secure me on the rock Above the dragon and his arrow: Want to escape I am next To the pure bosom of my God, O flood me in a desert land, And thy love while ever I live. A pilgrim feeble and soft, I began my journey which was far, Through a host of enemies of great treachery, While seeking a land that is better: Wanting to flee is my poor soul To my dear Brother and my head, In Salem above, prepare my place In a court within the curtain. My brothers are above the sky Singing at their journey's end, Therefore very reluctant was I, And delaying many a time: But henceforth draw me intensely, On Christ lean my head, In Salem above, prepare my place, In a court within the curtain.tr. 2018,19 Richard B Gillion |
|