O Iesu! rho im' dy adnabod Yn Gyfaill, yn Brïod, a Brawd, Yn Feddyg yn wyneb fy nychdod, Yn Gyfoeth i'r truan a'r tlawd, Yn D'wysog mewn rhyfel a chyni, (O'th flaen nid oes elyn a sai') Yn Hardd-wisg i guddio fy noethni, Yn Ffynon i olchi fy mai. Yn Fanna i'm henaid ymborthi, Yn Ddŵr i'm diodi ar y daith, Yn Golofn er nawdd a goleuni, I deithio trwy'r anial sy' faith; Yn Fugail, yn Frenin, a Llywydd, Yn Brophwyd, Offeiriad, a Chraig, Yn oll, ac yn oll yn dragywydd, Rhag gallu fy llygredd a'r ddraig. Yn Ddw'r :: Yn Wîn
John Hughes 1775-1854 Tôn [9898D]: Treffynnon (<1835) |
O Jesus, grant me to know thee! As Friend, as Spouse, and Brother, As Physician in the face of my sickness, As Wealth to the wretched and the poor, As Prince in war and distress, (Before thee no enemy shall stand) As beautiful raiment to cover my nakedness, As a fount to wash my sin. As Mannah for my soul to feed, As water for me to drink on the journey, As a pillar for protection and light, To travel through the desert which is vast; As Shepherd, as King, and Leader, As Prophet, Priest, and Rock, As all and as all in eternity, From my corruption and the dragon. As Water :: As Wine tr. 2015 Richard B Gillion |
|