1,2,3,4,(5); 1,2,3,6.
O llefara addfwyn Iesu,
Mae dy eiriau fel y gwin;
Oll o mewn yn dwyn tangnefedd,
Ag sy o anfeidrol rin;
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrydaf tawel,
Yn distewi a myn'd yn fûd.
Tyred Yspryd sancteiddiaf,
Llwyr lanha dy dŷ dy hun;
Lladd y beiau yn fy natur,
O'r boreu-ddydd sydd ynglyn,
Gwna nghydwybod ynwi'n danllwyth,
Na ddioddef wyf unrhyw fai,
Ag sy'n gwneuthur oriau mywyd,
Fel rhyw oes o 'difarhau.
Achub, Arglwydd, mae'n ddiweddar,
Nid oes geny' ond byr brydnawn;
Ac mae'r fyddin sydd i'm herbyn,
Yn cynnyddu'n danbaid iawn,
Danfon allan saethau'r nefoedd,
Cuddia fi â dy gariad rhad,
A thro'r llu sy'n erbyn Sion,
Gan ryw ddychryn tu a'u gwlad.
Tyred Iesu i'r anialwch,
At bechadur gwael ei lun,
Ganwaith dd'rysodd mewn rhyw rywdau,
Rhwydau weuodd ef ei hun,
Llosg y d'rysni sydd o'm cwmpas,
Rho fi i sefyll ar fy nhraed,
Moes dy law ac arwain drosodd,
F'enaid gwan i dir ei wlad.
Dianc a wnes o ddinas Sodom,
Ar y gwastad 'rwyf yn byw,
Mae fy nghefn i ar Gomora
Fy wyneb tua gwlad fy NUW;
Fynu i'r bryniau 'rwyf am ddianc,
Fel na'm dalio y mwg a'r tân,
Rho dy law dywysog bywyd,
Tyn fy enaid yn y blaen.
Marchog Iesu yn llwyddiannus,
Gwisg dy gleddyf ar dy glun;
Ni all daear dy wrthsefyll,
'Chwaith nag uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae rhyw arswyd drwy'r greadigaeth;
Pan y byddoch di gerllaw.
- - - - -
1,2,(3); 1,3.
O llefara, addfwyn Iesu,
mae dy eiriau fel y gwin,
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
ag sydd o anfeidrol rin;
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrytaf, tawel
yn distewi a mynd yn fûd.
Ni all holl hyfrydwch natur,
a'i melystra penna' i maes,
Fyth gymharu â lleferydd
hyfryd, pur, maddeuol ras;
Gad im glywed sôn dy eiriau,
awdurdodol eiriau'r nef,
Oddi mewn yn creu hyfrydwch
nad oes mo'i gyffelyb ef.
Dwed dy fod yn eiddo imi,
mewn llythrennau eglur, clir;
Tor amheuaeth sych, digysur,
tywyll, dyrys, cyn bo hir;
'Rwy'n hiraethu am gael clywed
un o eiriau pur y ne',
Nes bod ofon du a thristwch
yn tragwyddol golli eu lle.
- - - - -
O llefara addfwyn Iesu,
Mae dy eiriau fel y gwîn;
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd,
Ag sy o anfeidrol rîn:
Mae holl leisiau'r grëedigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrydaf tawel,
Yn dystewi a myn'd yn fûd.
Nis gall holl hyfrydwch natur,
A'i melusdra penaf maes,
Byth gymharu â lleferydd,
Hyfryd pur maddeuol râs;
Gad im' glywed swn dy eiriau,
Awdurdodol eiriau'r nef,
Oddimewn yn creu hyfrydwch,
Nad oes mo'i gyffelyb ef.
Gwedd dy wyneb sy'n rhagori,
Ar drysorau'r India draw,
Mae awelon pur dy gariad,
Yn dwyn gwobr yn eu llaw;
Perffaith bleser heb ddim diwedd,
Perffaith gysur heb ddim trai,
Yn ystormydd mawr cynddeirio>,
Yw yn unig dy fwynhau.
Achub achub, mae'n ddiweddar,
Nid oes geny' ond byr brydnawn,
Ac mae'r fyddin sydd i'm herbyn,
Yn cynnyddu'n danbaid iawn:
Danfon allan saethau'r nefoedd,
Cyfod fi, dod fi yn dy gol,
A thro'r llu sy'n erbyn Sïon,
Gan ryw ddychryn yn eu hol.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]:
Chrysostom (<1897)
Dismissal / Mount of Olives (Beethoven / Viner)
Edinburgh (alaw Gymreig)
Gaerwen (Lowell Mason 1792-1872)
Hyfrydol (R H Pritchard 1811-87)
Luzerne (Gwilym M Williams)
Llan-Gan (alaw Gymreig)
Moriah (alaw Gymreig)
O Llefara Addfwyn Iesu (Noah Williams)
Queen'sborough
Pantycelyn (W Davies)
Pennsylvania (Joseph Parry 1841-1903)
Vienna (F J Haydn 1732-1809)
gwelir:
Capten mawr ein hiechydwriaeth
Clywch yr udgorn fel mae'n seinio
Dyma'r llwybr a ddewisais
Goleu a nerthol yw dy eiriau
Iesu llawnder mawr y nefoedd
Mae yr oriau yn fy ngalw
Marchog Iesu yn llwyddiannus
Mewn anialwch 'rwyf yn trigo
O mor werthfawr yw'r gair perffaith
Tyred Arglwydd tyr'd yn fuan (Dyro'n helaeth ...)
Tyred Iesu i'r anialwch
Y mae'r oriau yn fy ngalw
|
Oh, speak, gentle Jesus,
Thy words are like wine;
All within bringing peace,
And is of immeasurable virtue;
All the voices of the creation are,
All attractions of flesh and world,
By the voice delightfully quiet,
Being silent and going mute.
Come holiest Spirit,
Completely cleanse thy own house;
Kill the faults in my nature,
From the morning which belong,
Make my conscience in me fiery,
That I suffer not any fault,
And which will make the hours of my life
Like some age of repentance.
Save, Lord, it is late,
I have only a short evening;
And the army that is against me is
Growing very fiery,
Send out the arrows of heaven,
Hide me with thy gracious love,
And turn the host which is against Zion,
By some terror to their land.
Come, Jesus, to the desert,
To a sinner of base condition,
A hundred times entangled in some bonds,
Bonds which he himself wove,
Burn the entanglement which is around me,
Set me to stand on my feet,
Give thy hand and lead over
My weak soul to the land of his country.
Escape I did from the city of Sodom,
on the plain I am living,
My back is towards Gomorrah
My face towards the land of my GOD;
Up to the hills I am escaping,
So that the smoke and fire not catch me,
Give thy hand, Prince of life,
Draw my soul onwards.
Ride, Jesus, successfully,
Wear thy sword on thy thigh;
Earth cannot withstand thee,
Neither can great hell itself:
Thy name is so wonderful,
Every kind of enemy shall retreat away;
There is some terror throughout the creation;
Whenever though art at hand.
- - - - -
O speak, gentle Jesus,
Thy words are like the wine,
All leading into peace
And are of immeasurable virtue;
All the voices of the creation,
All attractions of flesh and world,
By thy most delightful voice, are silent
Holding their peace and going mute.
Not all the delights of nature,
Nor its chief sweetness of all,
Will ever compare with the speech
(Pleasant, pure, forgiving) of grace;
Let me hear the sound of thy words,
The authoritative words of heaven,
From within creating delight
There is nothing similar to it.
Say thou art as possessor to me,
In plain, clear letters;
Break dry, dreary doubt,
Dark and obstructive, before long;
I am longing to be able to hear
One of the pure words of heaven,
Until black fear and sadness
Eternally lose their place.
- - - - -
O speak, gentle Jesus,
Thy words are like the wine,
All leading into peace
And are of immeasurable virtue;
All the voices of the creation,
All attractions of flesh and world,
By thy delightful still voice,
Becoming silent and going mute.
Not all the delights of nature,
Nor its chief sweetness of all,
Will ever compare with the speech
Pleasant, pure, forgiving grace;
Let me hear the sound of thy words,
The authoritative words of heaven,
From within creating delight
There is nothing similar to it.
The countenance of thy face is exceeding
The treasures of distant India,
The pure breezes of thy love are
Bearing a prize in their hand;
Perfect pleasure without any end,
Perfect comfort without any ebbing,
In great, furious storms
Is to enjoy only thee.
Save, save, it is late,
I have only a short afternoon,
And the army, which is against me, is
Increasing very fiery:
Send out the arrows of heaven,
Raise me, bring me in thy bosom,
And turn the host, which is against Zion,
Back by some terror.
tr. 2008,23 Richard B Gillion
|
Speak, I pray Thee, gentle Jesus,
O how passing sweet Thy words,
Breathing o'er my troubled spirit,
Peace which never earth affords,
All the world's distracting voices,
All th' enticing tones of ill,
At Thy accents, mild, melodious
Are subdued, and all is still.
- - - - -
Speak, I pray Thee, gentle Jesus,
O how passing sweet Thy words,
Breathing o'er my troubled spirit,
Peace which never earth affords,
All the world's distracting voices,
All th' enticing tones of ill,
At Thy accents, mild, melodious
Are subdued, and all is still.
Tell me Thou art mine, O Saviour
Grant me an assurance clear,
Banish all my dark misgivings,
Still my doubting, calm my fear.
- - - - -
Speak, I pray Thee, gentle Jesus,
O how passing sweet Thy words,
Breathing o'er my troubled spirit,
Peace which never earth affords,
All the world's distracting voices,
All th' enticing tones of ill,
At Thy accents, mild, melodious
Are subdued, and all is still.
tr. Edward Griffiths
- - - - -
Speak, O Christ! the gentle-hearted
tr. Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889
|