O maddeu 'mai, a chliria'n llwyr, F'euogrwydd oll i gyd; Ac na'd im' flino'th Ysbryd mwy Tra byddwyf yn y byd. Ti elli'm cánu er mor ddu, A'm lloni â dy hedd; O d'wed dy fod yn maddeu 'mai Fel na bwy'n ofni'r bedd.1: William Williams 1717-91 2: Anhysbys (<1880) Tôn [MC 8686]: Uxbrige (John H Roberts 1848-1924) gwelir: Fy meiau trymion luoedd maith Nid oes o fewn i mi i gyd |
Oh, forgive my fault, and clear completely All my guilt altogether; And do not let me grieve thy Spirit and more While ever I am in the world. Thou canst bleach me although so black, And cheer me with thy peace; O tell that thou art forgiving my fault That I may not fear the grave.tr. 2015 Richard B Gillion |
|