O mor rhagorol ac mor gu

(Swpper yr Arglwydd)
O mor rhagorol ac mor gu
  Yw gwledda'n nhŷ yr Arglwydd,
Ar ffrwythau da y nefol dir
  Rhydd ini wir lawenydd.

Nid bara a gwin daearol gwan
  A bortha'n rhan anfarwol;
Nid ydynt ond cysgodau da
  Grist y bara buwiol.

Mae'i gnawd a'i waed yn fwyd yn wir 
  I'r nefol nattur newydd;
A'r sawl a'i bwytty a fydd byw
  Fry gyda Duw'n dragywydd.

Ennillodd Crist trwy'i werthfawr wa'd
  I ni ryddhâd trag'wyddol;
A'r Arglwydd byw a aeth i'r bedd
  I ni gael annedd nefol.

              - - - - -

O mor rhagorol ac mor gu,
  Yw gwledda'n nhŷ yr Arglwydd;
Ar ffrwythau da y nefol dir,
  Rhydd ini wir lawenydd.

O bechaduriaid ufuddêwch,
  I'r swpper de'wch heb wrthod;
Gwrandewch ar lais y Brenin mawr,
  Mae pob peth 'nawr yn barod.

Ei gnawd a'i waed sydd ymborth pur,
  I'r nefol natur newydd;
A'r sawl a'i bwytty a fydd byw,
  Fry gydâ Duw'n dragywydd.

              - - - - -

O mor rhagorol ac mor gu
  Yw gwledda'n nhŷ yr Arglwydd,
Ar ffrwythau da y nefol dir
  A'n protha'n wir yn hylwydd.

Ei gnawd a'i waed sy'n fwyd yn wir,
  I'r nefol natur newydd;
A'r sawl sy'n bwyta a fydd byw
  Fry gyda Duw'n dragywydd.

Fe brynodd Crist â'i werthfawr waed
  I'r caeth ryddhad tagwyddol;
A'r Arglwydd byw a aeth i'r bedd
  I ni gael annedd nefol.

I'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân
  Dyrchafer cân clodforedd;
Fel gynt yr oedd, y mae'n ddi-lyth,
  A phery byth heb ddiwedd.
Benjamin Francis 1734-99

Tôn [MS 8787]:
    Degannwy (Benjamin Williams 1839-1918)

(The Lord's Supper)
O how excellent and how dear
  Is feasting in the house of the Lord;
On the good fruits of the heavenly land,
  It will give to us true joy.

Not earth, weak bread and wine
  Shall feed our immortal part;
They are nothing but shadows of good
  Christ the living bread.

His flesh and his blood are food truly
  To the new, heavenly nature;
And those who eat it shall live
  Above with God eternally.

Christ won through his precious blood
  For us eternal freedom;
And the living Lord who went to the grave
  For us to get an eternal dwelling.

                 - - - - -

O how excellent and how dear,
  Is feasting in the house of the Lord;
On the good fruits of the heavenly land,
  It will give to us true joy.

O sinners, be obedient,
  To the supper come without refusing;
Listen to the voice of the great King,
  Everything is now ready.

His flesh and his blood are pure food,
  To the new, heavenly nature;
And those who eat it shall live,
  Above with God eternally.

               - - - - -

O how excellent and how dear
  Is feasting in the house of the Lord,
On the good fruits of the heavenly land
  Which feed us truly successfully.

His flesh and his blood are food truly,
  To the new, heavenly nature;
And those who eat shall live
  Above with God eternally.
Christ purchased with his precious blood
  For the captive eternal freedom;
And the living Lord went to the grave
  For us to get a heavenly dwelling.

To the Father and the Son
    and the Holy Spirit
  A song of honour is to be raised;
As it once was, it shall be unfailingly,
  And shall endure forever without end.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~