O mor werthfawr yw'r gair perffaith

(Gwerth y Gair)
1,2,(3a);  1,3a;  1,2,3b,4;  1,2,5.
O mor werthfawr yw'r gair perffaith 
  Sydd yn d'od o enau Duw!
Gwych a dirfawr iechydwriaeth
  Ynddo dardd: O hynod yw!
Nid all miloedd o aur melyn, 
  Na'r trysorau goreu sydd,
Foddio'r didwyll wir gredadyn,
  Fel diffuant air y ffydd.

Mae fe'n para'n fara peraidd,
  I ddigoni'r enaid gwan:
Gwin a llaeth yw'r gair i'r llariaidd,
  Mae i'r rhai'n yn ddirfawr ran;
O mor felus yw i filoedd,
  Tan flinderau trymion trist!
Dengys i ni gyrau'r nefoedd,
  Dengys groeshoeliedig Grist.

O mor gyfiawn yw dy gyfraith,
  A'th orch'mynion di ein Duw!
O mor hynod ac mor helaeth
  Yw dy ras at ddynolryw!
Llwydda dy efengyl beraidd,
  A dynoetha fraich dy ras;
O tywyned dy wirionedd,
  Oll ar led
    y ddaear lâs.

[O mor gyfiawn yw dy gyfraith,
   A'th orch'mynion di ein Duw!
 O mor hynod ac mor helaeth
   Yw dy ras at ddynolryw!
 Tra fo'm mhridd myn'd i ymgymysg
   A'r hyn y gwynaethpwyd ef' rhyw brŷd;
 Llewyrch wyneb Duw disgreirio
   Rhannau f'enaid
       oll i gyd.]

Wedi'm gochi, oddi wrth sorod
  Pechod ffiaidd drwg ei ryw,
Fel drŷch golau i dderbyn delw
  Holl sancteiddrwydd pûr fy Nuw:
Ni raid teithio'r ddaear mwyach
  Yn mhlith pryfed gwael y llawr,
Ond dysgleirio mhlith myrddiynau
  'Gylch yr orsedd fel y wawr.

O llefara, addfwyn Iesu,
  Mae dy eiriau fel y gwîn;
Oll o'm mewn yn dwyn tangnefedd,
  Ag sy o anfeidrol rîn;
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
  Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrydaf tawel,
  Yn distewi a myn'd yn fud.
1-3bi: Benjamin Francis 1734-99
3bii-5: William Williams 1717-91
              - - - - -

O mor werthfawr yw'r gair perffaith
  Ddaeth i ni o enau Duw!
Mae'n datguddio iachawdwriaeth
  Gyflawn, rad, i ddynolryw!
Ni all miloedd o aur melyn,
  Na'r trysorau gorau sydd,
Foddio'r didwyll wir gredadyn,
  Fel diffuant air y ffydd.

Yma caf bleserau sanctaidd,
  Llaeth a mêl, a gwên fy Nuw;
Sypiau Canaan, gwleddoedd breision,
  Manna ddigon tra fwy' byw:
Dengys hwn y ffordd im' dreulio
   F'oriau'n hyfryd iawn i ben,
Ffordd i farw dan lawenu,
  Ffordd at delyn aur y nen.
Cas. o Hymnau ... Y Methodistiaid Wesleyaidd 1844

Tonau [8787D]:
Carlisle (<1825)
Carmel New (<1825)
Dismission (J F Wade c.1711-86)
  Ebenezer Chapel (<1825)

gwelir::
  Cofia f'enaid cyn it' dreulio
  Iesu hawddgar 'rwy'n dy ddewis
  O llefara addfwyn Iesu

(The Worth of the Word)
 
O how valuable is the perfect word
  That came to us from God's mouth!
A wonderful and great salvation
  In him originating: O it is remarkable!
Not thousands of yellow gold,
  Nor the best treasure there are
Can satisfy the honest, true believer,
  Like the sincere word of faith.

It endures as sweet bread,
  To satisfy the weak soul:
Wine and milk is the word to the meek,
  It is to them a hugee portion;
O how sweet it is to thousands,
  Under heavy, sad, afflictions!
It show us the corners of the heavens,
  It shows the crucified Christ.

O how righteous is thy law,
  And thy commandments, our God!
O how remarkable and how vast
  Is thy grace to hymankind!
Prosper thy sweet gospel,
  And bare the arm of thy grace;
O may thy truth shine,
  All over the breadth
    of the blue-green earth!

[O how righteous is thy law,
   And thy commands, our God!
 O how notable and how abundant
   Is thy grace towards humankind!
 While my soil gets mixed
   With that he made some time;
 'Tis the radiance of God's
      face that brightens
   Every part of all my soul.]

Having been washed from the dross
  Of detestable sin of an evil sort,
Like a mirror of light to receive the whole
  Pure, holy image of my God:
No need to travel the earth any more
  Amongst the base worms of the ground,
But to shine amidst myriads
  Around the throne like the dawn.

Oh, speak, gentle Jesus,
  Thy words are like wine;
All within me bringing peace,
  And is of immeasurable virtue;
All the voices of the creation are,
  All attractions of flesh and world,
By the voice delightfully quiet,
  Being silent and going mute.
 
 
                 - - - - -

O how valuable is the perfect word
  That came to us from God's mouth!
It is a revelation of salvation
  Full, free, to humankind!
Not thousands of yellow gold,
  Nor the best treasure there are
Can satisfy the honest, true believer,
  Like the sincere word of faith.

Here I may have holy pleasures,
  Milk and honey, and my God's smile;
Clusters of Canaan, sumptuous feasts,
  Sufficient manna as long as I live:
This will show the way for me to spend
  My hours very delightfully to the end,
A way to die rejoicing,
  A way the golden harp of the sky.
tr. 2009,17 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~