O n'allwn g'odi'm henaid gwàn I'r nefol baradwysaidd fàn! Lle cawn i wel'd mewn munyd awr Fwy na thrysorau'r ddaear fawr. Mae golwg arnat Ti, fy Nuw, Yn drysor ddigon tra f'wyf byw; Mae golwg arnat Ti Dy Hun Yn d'weyd mor salw ydyw dyn. Pan gaffwyf wel'd Dy wyneb-pryd Mae'n darfod freniniaethau'r byd; Pob enw dàn yr awyr lâs Sy'n myn'd yn ddim yn ngoleu'th râs. Pan gallwyf gredu, er yn wan, Fod ti dy hunan imi'n rhan; Mae hyn yn troi fy mhoen o'r bron Yn rhyw lawenydd tan fy mron. Dy bresenoldeb gwerthfawr, drud, Yw fy nyddanwch yn y byd; Ac heb dy bresenoldeb gwiw Fel un amddifad 'rwyf yn byw. O! Frenin mawr, tragwyddol, cûn, Wyt oll yn oll, wyt oll yn un; Rho imi wel'd Dy hyfryd wedd, Ni cheisiaf fwy tu yma i'r bedd.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: Gwelir: O Frenhin mawr tragwyddol cun |
O that I may be able to raise my weak soul To the heavenly paradisiacal place! Where I may get to see in a moment More than the treasures of the great earth. Looking upon Thee, my God, is A treasure sufficient while I live; Looking upon Thee Thyself is Telling how poorly is man. When I get to see Thy countenance The kingdoms of the world fade away; Every name under the blue sky Is going to nothing in the light of thy grace. When I am believing, although weak, That thou thyself art a portion to me; This is turning my pain completely Into some joy under my breast. Thy costly, precious presence Is my comfort in the world; And without thy worthy presence Like one bereft I am living. O dear, great, eternal King, Thou art all the same; Grant me to see Thy lovely face, I will not seek more on this side of the grave.tr. 2010,21 Richard B Gillion |
|