O na allwn roddi 'mwys

  O! na allwn roddi 'mwys
    Ar dy alluog law,
  A gado i gystudd dd'od
    Oddiyma ac o draw;
A byw tan nawdd
      y dwyfol waed
Yn ngolwg hyfryd
      tŷ fy Nhad.

  Ni phery ddim yn hir
    Y ddu dymhestlog nos:
  Ni threfnwyd amser maith
    I neb i gario'r groes:
Mae'r hyfryd wawr sy'n tori draw
Yn d'weyd fod bore braf gerllaw.

  Mi wela'r cwmwl du
    Yn awr yn mron a ffoi,
  A gwynt y gogledd sy
    Ychydig bach yn troi:
'Nol tymhestl fawr
      daw yn y man,
Ryw hyfryd hin ar f'enaid gwan.

  A heibio'r dywell nos,
    Fe ffy cymylau'r nen,
  Fe ddaw'r addewid wir
    A'i geiriau pur i ben:
Ceir gwel'd, ceir gwel'd
      yr hyfryd dir
Ar fyr o dro yn oleu clir.
William Williams 1717-91

[Mesur: 666688]

gwelir:
  A heibio'r dywell nos
  Fy enaid at dy Dduw
  Ni phery ddim yn hir

  O that I could lean
    On thy powerful hand!
  And let the affliction come
    Come here and from yonder;
And live under the protection
      of the divine blood
In the delightful sight
      of my Father's house.

  The black, tempestuous night
    Shall not last long:
  A long time was not ordained
    For anyone to carry the cross:
The delightful dawn is breaking yonder
Saying that the fine morning is at hand.

  I see the black cloud
    Now about to flee,
  And the wind of the north which is
    Shortly turning:
After a great tempest,
      shall come in a while
Some delightful climate on my weak soul.

  The dark night shall go past,
    The clouds of the sky shall flee,
  The true promise shall come,
    With its pure words, to fulfilment:
The delightful land is
      to be seen, to be seen
In a short while in clear light.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~