O na bae fy mhen yn ddyfroedd, Dyfroedd fel y môr didrai, A fy llygaid yn ffynnonau Llawn o ddagrau i barhau, Fel yr wylwn yn ddiarbed Am drueni dynolryw, Sydd yn gorwedd mewn caethiwed, Wedi colli delw Duw! Dengys ansawdd y gre'digaeth Nad yw pobpeth yn ei le Rhwng preswylwyr byd aflonydd A Chreawdydd mawr y ne'; Cydoch'neidio dan gaethiwed Mae'r cre'duriaid yn eu rhyw; Pawb, mewn ysytr, ar ddysgwyliad Am ddatguddiad meibion Duw. Blinais edrych 'nol i Eden, Troaf bellach tua'r groes, Blin effeithiau'r codwm hwnw Ro'dd i'm henaid lawer loes; Ar Galfaria mae'n goleuo, - Poen, a gwae, a melldith ffôdd; Yno gallaf gyraedd trysor Mwy na gwerth y byd, yn rhodd.Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [8787D]: |
O that my head were waters, Waters like the unebbing sea, And my eyes fountains Full of tears to endure, That I might weep unsparingly For the wretched of humankind, Who are lying in captivity, Having lost the image of God! The quality of the creation shows That everything is not in its place Between the residents of an uneasy world And the great Creator of heaven; Groaning together under captivity Are the creatures in their kind; All, in a meaning, expectant Of the revelation of the sons of God. I wearied of looking back to Eden, I will turn henceforth towards the cross, Weary of the effects of that fall Which gave my soul many pangs; On Calvary it is brightening, - Pain, and woe, and curse fled; There I may reach a treasure More than worth the world, as a gift.tr. 2016 Richard B Gillion |
|