O na ba'wn yn gwel'd y boreu, Boreu hyfryd llawn o hedd; I'r haul godi ar fy enaid, Byth i fachlud tu yma i'r bedd. Na'd im beiau câs eu hanian, Byth i ddyfod yn eu hol, Na foed i mi gym'ryd pleser, O un natur yn fy nghol. Boed fy nghalon iti'n deml, Boed fy ysbryd iti'n nyth, Ac o fewn y drigfan yma, Aros, Iesu, aros byth. Yn canu, cawn yn wastad, Yng nghwmpeini'm Harglwydd cûn, A llawenu yn yr olwg, O fy nefol wlad fy hun.William Williams 1717-91 Diferion y Cyssegr 1804 [Mesur: 8787] gwelir: Arglwydd grasol dyro gymhorth Boed fy nghalon iti'n dem(e)l |
O that I would see the morning, The delightful morning full of peace; For the sun to rise on my soul, Never to set on this side of the grave. Do not let my faults of a detestable nature, Ever come back, Nor may I take pleasure, From any nature in my bosom. May my heart be a temple for thee, May my spirit be a nest for thee, And within this residence, Stay, Jesus, stay forever. Singing, I may get to be constantly, In the company of my dear Lord, And rejoice in the view, Of my own heavenly land.tr. 2019 Richard B Gillion |
|