O na ddeuai'r dyddiau dedwydd

(Dyddiau dedwydd)
O na ddeuai'r dyddiau dedwydd,
  I deyrnasoedd daear lawr
Wir adnabod Crist yr Arglwydd,
  Plygu i'r Messia mawr;
Pawb yn llu, o'r un tu,
Yn molianu Iesu cu.

Dyna'r pryd y derfydd enwau
  Gan grefyddwyr ar y llawr,
Enwau gweigion wedi'u llyncu
  Yn y dwyfol Enw mawr:
Dydd sy'n d'od, cenir clod
Iesu'n unig dan y rhôd.
Dyna'r pryd :: Dyma'r pryd
grefyddwyr :: broffeswyr

John Thomas 1730-1804?

Tonau [8787337]:
Dolfor (alaw Gymreig)
Neander (Joachim Neander 1650-80)

gwelir:
  Aros Iesu yn y rhyfel
  Mawr yw'r hiraeth sy'n fy nghalon
  O na b'ai gwybodaeth Iesu

(Happy days)
O that the happy days would come,
  For the cities of earth below
Truly to know Christ the Lord,
  To bow to the great Messiah;
Everyone as a host, of the same side,
Praising dear Jesus.

This is the time names will cease
  Of false believers on the earth,
Empty names having been swallowed
  In the great divine Name:
A day is coming, the praise is to be sung
Of Jesus only under the sky.
That is the time :: This is the time
believers :: professors

tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~