O na roi'r winwydden hyfryd

1,2,(3).
(Ymwared mewn ofn - Rhan II)
O! na roi'r winwydden hyfryd
  Beth o'i ffrwythau i lawenhau
Enaid flinodd gan och'neidio,
  Enaid flinodd gan dristau:
    Deued bellach -
  Deued blodau, deued haf.

Llais y durtur
    doed i lòni
  'Rhai na cha'dd ond gaua' 'rioed -
Mi, yr hwn ag sydd yn methu
  Cael fy meiau dàn fy nhroed:
    Attal, Arglwydd,
  Angeu nes cael gweled dydd.

Pe cawn gredu i ti farw,
  A dïoddef, yn fy lle,
Ac i ti bwrcasu trigfan
  I fy enaid yn y ne',
    Byth ni phwyswn
  Faint fy ngofid, faint fy ngwae.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Catherine (David Roberts 1820-72)
Hyder (Richrd Ellis 1775-1855)
St Peter (alaw Eglwysig)

gwelir: Rhan I - Dacw uffern yn ei harfau

(Deliverance in fear - Part 2)
O that the delightful vine would not give
  Any of its fruits to rejoice
A soul that grieved while groaning,
  A soul that grieved while saddening:
    Henceforth let -
  Flowers come, let Summer come.

Let the voice of the turtle
    dove come to cheer
  Those who only ever got Winter -
I, the one who is failing
  To get my faults under my foot:
    Lord, stop
  Death until I get to see day.

If I got to believe that thou didst die,
  And suffer, in my place,
And that thou didst purchase a dwelling
  For my soul in heaven,
    I would never weigh
  The extent of my grief,
      the extent of my woe.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~