O nefol awel chwyth yn awr

(Grym yr Ysbryd)
O! nefol awel, chwyth yn awr,
  Mae bellach yn hwyrhau:
Er mwyn dy enw, Arglwydd mawr,
  O! tyred i'n bywhau!

O! ddwyfol, anorchfygol nerth,
  Datguddia'r Aberth mawr;
Rhinweddau'r gwaed, yr Iawn,
    a'r gwerth,
  Datguddia inni'n awr.

O! wir Ddiddanydd eglwys Dduw,
  Preswylia yn ein plith;
Ac arwain ni fel byddom byw
  O dan dy nefol wlith.
Daniel Jones 1788-1848

Tonau [MC 8686]:
    Abridge (Isaac Smith 1734-1805)
    Bedford (William Wheal 1696-1727)
    Brithdir (P H Lewis 1875-1956)
    Burford (Salmydd Chetham 1718)
    Philippi (Samuel Wesley 1766-1837)

(The Power of the Spirit)
O heavenly breeze, blow now,
  It is now getting late:
For thy name's sake, great Lord,
  Oh come to revive us!

O divine, insuperable strength,
  Disclose the great Sacrifice,
The virtues of the blood, the Atonement,
    and the worth,
  Disclose to us now.

O true Comforter of the church of God,
  Reside in our midst;
And lead us while we live
  Under thy heavenly dew.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~