O nefol Dad gad i ni fyw

(Dirwest)
O nefol Dad, gad i ni fyw
  Yn nawdd Dy gariad mawr,
Mewn sobrwydd meddwl gyda'th waith,
  A'n hwyneb tua'r wawr.

O Grist, yn Geidwad in' bydd Di,
  Rhag mynd ar ol y byd;
Ac na chaed gwin na diod gref
  Un amser ddenu'n bryd.

O Ysbryd Glān, llwyr lanw'n bron
  A'th bur lawenydd Di,
Fel na bo gloddest yfwyr gwin
  Yn ddenol byth i ni.

O Sanctaidd Drindod, cadw'n troed,
  Rhag crwydro i lwybrau blys,
Ond rhodio'n union ger Dy fron
  Yn ffyrdd Dy nefol lys.
Charles Davies 1849-1927

Tôn [MC 8686]: Abergele (J Ambrose Lloyd 1815-74)

(Abstention)
O heavenly Father, let us live
  In the protection of Thy great love,
In sobriety of thought with thy work,
  And our face towards the dawn.

O Christ, a Saviour be Thou to us,
  From going after the world;
And let not wine nor strong drink
  Once attract our mind.

O Holy Spirit, completely fill our breast
  With Thy pure joy,
That the carousal of wine-drinkers be not
  Attractive ever to us.

O Holy Trinity, keep our feet,
  From wandering in the paths of pleasure,
Bu walk rightly before Thee
  In the ways of Thy heavenly court.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~