O Nertha'm henaid gwan ei ffydd
O Nertha f'enaid gwan ei ffydd

(Tlodi dyn, a golud gras.)
O nertha'm henaid gwan ei ffydd,
Ro'i ofal arnat ti bob dydd;
  Heb flino ynghylch amseroedd draw
  Y rhai o bossibl byth ni ddaw.

Pan oedd euogrwydd heb ddim hedd
Y'mron a'm gwasgu'n
    īs na'r bedd,
  A'm holl bechodau'n codi'n llu,
  Datguddiudd Duw ei Fab i mi.

Cymmer fi, Iesu, fel yr wyf,
Cuddia fi yn dy farwol glwyf;
  Can's dyna graig
      y gwnaf fy nyth,
  'Does neb yn ofni yno byth.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn;
  Myfi yn dlawd heb feddu dim
  Ac yntau'n rhoddi pob peth im'.

Gād i mi dreulio nyddiau i gyd
I edrych ar dy wyneb-pryd,
  Difyru f'oes o awr i awr,
  I garu fy Eiriolwr mawr.

             - - - - -
(Gweddi am gynnaliaeth a grās)
O, nertha f'enaid gwan ei ffydd,
Roi 'ngofal arnat Ti bob dydd;
  Heb flino 'nghylch amseroedd draw,
  Y rhai bosibl byth ni ddaw.

D'ysgwyddau Di ddeil feichiau mawr,
Arnynt mae'n gorphwys nef a llawr;
  Am hyn fy holl ofidiau i
  Gānt bwyso'n gyfan arnat Ti.

Dy iau sydd esmwyth im' o hyd,
Trwy rin dy groes
    a'th gariad drud,
  A'th faich sydd ysgafn -
      hyfryd yw
  Wrth brofi'th hedd
      a'th gariad gwiw.

Pār fod d'ogoniant pur, dilyth,
Yn nod a dyben imi byth;
  Dy fywyd hardd,
      a'th eiriau gwir,
  Yn wastad imi'n rheol bur.

Rho imi lechu'n dawel, glyd,
Tu hwnt i swn fy meiau gyd,
  Uwch twrf
      a themtasiynau'r llawr,
  Tan gysgod
      dy gyfiawnder mawr.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Colne (Aberth Moliant 1875)
Courland (F J Haydn 1732-1809)
Savoy (<1829)

gwelir:
  Dyma gyfarfod hyfryd iawn
  Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd
  O Arglwydd dena'm serch a'm bryd
  O Arglwydd d(')wêd i mi pa lun
  O Iesu mawr y Meddyg gwell
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw
  Pererin wyf tua Salem bur
  Wrth droi fy ngolwg yma'i lawr

(The poverty of man, and the wealth of grace.)
O strengthen my weak soul's faith,
To put its care upon thee every day;
  Without grieving about distant times
  Those which will possibly never come.

When there was guilt without any peace
In my breast and pressing me
    lower than the grave,
  And all my sins rising as a host,
  God revealed his Son to me.

Take me, Jesus, as I am,
Hide me in thy mortal wound;
  Since there is the rock
      I will make my nest,
  There is no-one fearing there ever.

Here is a very delightful covenant,
I bare and Jesus full;
  I poor without possessing anything
  And he giving ever thing to me.

Let me spend all my days
To look upon thy countenance,
  Delight my age from hour to hour,
  To love my great Mediator.

               - - - - -
(Prayer for support and grace)
O, strengthen my weak soul's faith,
To put its care upon Thee every day;
  Without grieving about distant times
  Those which will possibly never come.

Thy shoulders bear great burdens,
Upon them are lying heaven and earth;
  Therefore all my griefs
  May lean wholly upon Thee.

Thy yoke is easy for me always,
Through the merit of thy cross
    and thy costly love,
  And thy burned is light -
      delightful it is
  While experiencing thy peace
      and thy worthy love.

Cause thy pure, unfailing glory to be
A mark and purpose for me forever;
  Thy beautiful life,
      and thy true words,
  Constantly to me as pure rules.

Grant me to lurk quietly, securely,
Beyond the sound of all my sins,
  Above the commotion
      and temptations of the earth,
  Under the shadow
      of thy great righteousness.
tr. 2016,17 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~