O! pwy all beidio â chanu A chanu mewn boddhad Tra fyddo sŵn telynau'r nef Mor beraidd yn y wlad? Anthemau'r dwyfol gariad, A ddysgwyd ar y bryn, A glywir gyda'r awel fwyn Yn croesi dros y glyn. Mae'r Iesu eto'n galw, Ac ar ei ôl yr awn, Eisteddwn yn ei gysgod byth, A chanu, canu wnawn. O! pwy all beidio â dilyn Anwylaf Geidwad dyn? Yng nghanol gofid ing a gwae, Mae'n Gyfaill byth a lŷn; Dilynodd Ef y crwydryn, A'i geisio bu yn hir: Ac aros mae ei ddafnau gwaed Ar ddrain yr anial dir. O! pwy all beidio â'i fanmol Am ddioddef dros y byd? A gwneud y ffordd at orsedd Duw Yn olau ar ei hyd; Hyfrydwch gan angylion Wrth gofio am a wnaed, Yw bwrw eu coronau aur Yn ufudd wrth ei draed.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tôn [7686T]: |
Oh, who can refrain from singing, And singing in satisfaction While there is the sound of heaven's harps So sweet in the country? Anthems of divine love, Which were learned on the hill, Are to be heard with the gentle breeze Crossing over the valley. Jesus is calling still, And after him we go, Let us sit in his shade forever, And sing, let us sing. Oh, who can refrain from following The dearest Saviour of man? In the midst of grief, pang and woe, He is a Friend who will always stick; He followed the wanderer, And seeking him was long: And remain do his drops of blood On the thorns of the desert land. Oh, who can refrain from praising him For suffering for the world? And making the way to the throne of God Light all along it; The delight of the angels On remembering what he has done, Is throwing their golden crowns Obediently at his feet.tr. 2015 Richard B Gillion |
|