O! 'rwyf yn hoffi canu, Canu â calon iach; Swyno y byd a'i synnu, Fel y aderyn bach; Sisial fy nghân bob bore - Cyn daw gofidiau'r dydd, Canu i'r Iesu fy ngorau - Hyn imi'n fwyniant fydd. Canaf, mi ganaf, Hosanna a seiniaf, Yr Iesu a folaf Hyd derfyn fy oes. Llenwir y byd â moliant Pan ddaw y byd i'w le, Ni fydd yn lle i siomiant, 'R un fydd a chân y ne'; Melys fydd sôn am Iesu, Ceidwad i blentyn yw, O! fel mae'n hoffi caru Pawb sydd yn caru Duw. Cysur i galon plentyn Ydyw ei gân bob pryd, Ni ddaw i'w fron yn gelyn, Canu wna ef o hyd. Cilia pob ysbryd aflan, Telyn geir yn ei law, - Cwmni yr Iesu ym mhobman Ymlid bob gelyn draw.Edward Jones (Myfyr Elfed) 1869?-1934 Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930
Tôn [8686D+5665]: |
O I am loving singing, Singing with a healthy heart; Charming the world and surprising it, Like a little bird; Twittering my song every morning - Before the griefs of the day come, Singing to Jesus my best - This will be my enjoyment. I will sing, I will sing, Hosanna I will sound, Jesus I will praise Until the end of my age. The world is to be filled with praise When the world comes to its place, There shall be no place for shame, The same it shall be as the song of heaven; Sweet it will be to mention about Jesus, A Saviour for a child is he, O how he is delighting to love All who are loving God. A comfort to the heart of a child Is his song every time, No enemy shall come to his breast, Sing he does always. Every unclean spirit retreats, A harp is to be had in his hand, - The company of Jesus everywhere Chases every enemy away.tr. 2016 Richard B Gillion |
|