O Salem hardd! preswylfa'n Nêr Tu hwnt i gylchoedd maith y sêr - Neillduol gartref Duw ei Hun, Sy'n mhell uwchlaw dychymmyg dyn. Ymgryma'r engyl yno i lawr Ger bron y presennoldeb mawr, A'r saint prynedig rif y gwlith Heb ond un anian yn eu plith. A feiddiwn ni farwolion ddod, Ger bron ein Duw i seinio'i glod? Trwy angeu'r groes rhoed i ni hawl I draethu'n cwyn ac odli'n mawl. Dechreuwn heddyw ar y gwaith, Mewn marwol fyd, mewn dynol iaith, Nes cael ein lle yn mysg y llu Sy'n ddedwydd yn y nefoedd fry.William Ambrose (Emrys) 1813-73
Tonau [MH 8888]: |
O beautiful Salem! habitation of the Lord Beyong the vast circuits of the stars - The private home of God Himself, Which is far above the imagination of man. The angels there bow down Before the great presence, And the redeemed saints of the number of the dew With only one nature amongst them. And shall we mortals dare to come Before our God to sound his acclaim? Through the death of the cross he gave us the right To expound our complaint and the verses of our praise. Let us start today on the work, In a mortal world, in human language, Until getting our place amongst the host Who are happy in heaven above.tr. 2015 Richard B Gillion |
|