O'th ŵydd, fy Nuw, pa noddfa gaf, Oddiwrth dy Ysbryd b'le yr âf? Wyt uwch nag uchder mawr y ne', Wyt îs na'r dyfnder yn mhob lle. Os dringaf fry i'r nef uwch llawr, Wyt yno mewn disglaerdeb mawr; Pe lawr i uffern ddofn 'r awn i, Duw, yno hefyd, wele, di. Pe cawn adenydd boreu wawr, A ffoi tuhwnt i'r cefnfor mawr; Dy law âi yno'n gynt na mi, Fe'm delid â'th ddeheulaw di. Nid llen y nos, na dirgel le, Orchuddia rhagot, Arglwydd ne'; Y tywyll nos a'r goleu ddydd I ti, O Dduw, 'run ffunud sydd.Deuddeg Cant ag Un o Hymnau 1868 [Mesur: MH 8888] |
From thy presence, my God, what refuge shall I get, Away from thy Spirit where shall I go? Thou art higher than the great height of heaven, Thou art lower than the depth in every place. If I climb up to heaven above earth, Thou art there in great radiance; If down to deep hell I should go, God, there also, behold, thee. If I had the wings of morning dawn, And fled beyond the great ocean; Thy hand would go there before me, Thou wouldst hold me with thy right hand. Not the curtain of night, nor a secret place, Would hide from thee, the Lord of heaven; The dark night and the light of day To thee, O God, are just the same.tr. 2016 Richard B Gillion |
|