O! tyrd ar frys, Iachawdwr mawr, Disgyned d'Ysbryd yma'n awr, Rho nerth i bawb o deulu'r Tad Gydgerdded tua'r hyfryd wlad. Cyd-fyn'd o hyd, dan ganu 'mlaen, Cyd-ddioddef yn y dŵr a'r tân, Cydgario'i groes, cyd-lawenhau, A chyd-gystuddio dan bob gwae. Duw, tyrd â'th saint o dan y ne, O eitha'r dwyrain bell i'r de, I fod yn dlawd, i fod yn un, Yn ddedwydd ynot ti dy hun. Un llais, un sŵn, un enw pur, O'r gogledd fo i'r dwyrain dir, O fôr i fôr, o gylch y byd, Sef enw Iesu oll i gyd. Amen, Amen! - boed môr a thir Mewn perffaith hedd, mewn cariad pur, Heb ganddynt bleser o un rhyw Ond caru'r Iesus mawr a'u Duw. 'i groes :: 'r groes
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
O come quickly, great Saviour! May thy Spirit descend here now, Make the multitudes which the blood bought Walk together towards the pleasant land: - Go together always, while singing onwards, Suffering together in the water and the fire, Carrying the cross together, rejoicing together, And mourning together under every woe. God, bring thy saints under heaven, From furthest far east to the south, To be poor, to be one, Happy in thee thyself. One voice, one sound, one pure name, Be from the north to the eastern land, From sea to sea, around the world, That is the name of Jesus all together. Amen, Amen! - let sea and land be In perfect peace, in perfect love, Without having pleasure of any kind But the love of the great Jesus and their God. his cross :: the cross tr. 2009 Richard B Gillion |
|