O tyred Arglwydd mawr ('Does yma ddim ond gwae)

(Mwynhau Duw)
  O! tyred, Arglwydd mawr,
    'Does yma ddim ond gwae
  O eitha'r nen i lawr
    Os na chaf dy fwynhau;
Y wledd, y wledd
      a'm gwna yn llon,
Yw cael dy wel'd y funud hon.

  Fe laesa'r storom fawr,
    Fe laesa'r awel gref,
  Pan ddelo gair i lawr
    O'i sanctaidd enau ef:
Duw yw efe, os ef a bair,
Cwymp nef ac uffern wrth ei air.
William Williams 1717-91

Tôn [666688]: Waterstock (John Goss 1800-80)

gwelir:
  Mi welaf draw o bell
  Wel bellach tyr'd yn mlaen

(Enjoying God)
  O come, great Lord!
    There is nothing here but woe
  From the extremity of heaven to earth
    If I do not get to enjoy thee;
The feast, the feast that
      shall make me cheerful,
Is getting to see thee this minute.

  The great storm shall slacken,
    The strong wind shall slacken,
  When a word comes down
    From his sacred mouth:
God is he, if he shall endure,
Heaven and hell shall fall as his word.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~