O tyred Arglwydd tyr'd i lawr Llewyrcha'th wyneb yma 'nawr; Bydd yn ein mysg ar hyn o bryd Tra b'o dy bobl yma nghyd. O tyr'd a bywyd yma i'n plith, Tyr'd nefol Yspryd arnom chwŷth; Gwasgara'r holl gymmylau sy' Yn t'w'llu rhyngom a thydi. Os teimlo gawn dy gariad mawr Ein beichiau syrthiant oll i lawr; Pob enaid tlawd fydd wrth ei fodd Yn canu 'maes dy glôd ar g'odd. Ar bechaduriaid sy'n ddifrâw O Arglwydd dyro ôl dy law; Rhaglaena wael drueiniaid sy' Yn bryssio tu ag uffern ddu. Lle y dechreuaist ti waith da, Tyr'd Arglwydd etto dyfrhâ, Ar gynnydd, beunydd dwg ymla'n Dy blant ar hyd dy lwybrau glân. Bydd fugail arnom Iesu da Bugeilia ni mewn byd o blâ; Nes dyfod frŷ i'r wlad ddiboen I ganu'th glôd heb dewi 'sôn.cyf. Diferion y Cyssegr 1802 Tôn [MH 8888]: Ernan (Lowell Mason 1792-1872) gwelir: O anwyl Arglwydd tyr'd i'n plith O tyred Arglwydd yma i'n plith |
O come, Lord, come down, Shine thy face here now; Be in our midst at this time While thy people are here together. O bring life here amongst us, Come, heavenly Spirit, upon us blow; Scatter all the clouds which are Darkening between us and thee. If a feeling we get of thy great love Our burdens all fall down; Every poor soul shall be delighted Singing out thy praise publicly. On sinners who are without fear O Lord, put the mark of thy hand; Prevent the poor wretches who are Hurrying towards black hell. Where thou didst begin thy good work, Come, Lord, water it again, Increasingly, daily draw forward Thy children along thy holy paths. Be a shepherd over us, good Jesus, Shepherd us in a world of plague; Until we come up to the painless land To sing thy praise without falling silent.tr. 2017 Richard B Gillion |
Isaac Watts 1674-1748
|