1,2,(3),4; 1,(2,3),4,5,6. O! tyred, Ysbryd Sanctaidd, pur, Nertha'm blinedig draed; A rho i mi olwg oleu, glir, Ar hyfryd dir fy ngwlad. Gâd imi ado'r anial maith, Gwlad galar, a gwlad gwae; A myned rhagof tua'r tir Sy' a'i bleser yn parhau. 'R wyf fel y gwyliwr ar y mur, Yn disgwyl, bob yr awr, Am weld yn gwawrio jiwbil fwyn Fy muddugoliaeth fawr; Pleserau'r ddaear wedi ffoi, Pob chwantau i gyd yn un, Heb un difyrwch is y rhôd Ond Iesu mawr Ei Hun. A meddwl am gwmpeini'r nef, A meddwl am y gwaith Fydd genyf yno'n treulio i maes Holl dragwyddoldeb maith. Yn mhlith cwmpeini rif y sêr, Llawn ddisglaer uwch y nen, Yn cymysg cariad ato Ef Fu farw ar y pren. 'R wyf fel :: Wyf fel Plesurau'r ddaear :: Plesurau daear i gyd yn un :: yn gytûn - - - - - (Nerth i'r diffygiol) O tyred, Ysbryd Sanctaidd pur, Nertha 'mlinedig draed; A rho i'm olwg oleu, glir, Ar hyfryd dir fy ngwlad. Rho nerth i rodio er dy glod, Ac iti bellach fyw; A threulio 'mywyd gyda blas I ganmol gras fy Nuw. O cau fy llygaid rhad im' weld Pleser gwag y byd; N'ad i mi wyro byth oddiar Dy llwybrau santaidd, drud.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw Darfydded son am bleser mwy Fe'm siomwyd gan bleserau'r llawr Pererin wyf mewn anial dir (Yn crwydro ...) 'Rwyf fel y gwyliwr ar y mur |
Oh come, pure Holy Spirit, Strengthen my weary feet; And give me a bright, clear glimpse, Of the delightful land of my country. Let me leave the vast desert, The country of lamenting, and the country of woe; And go onwards towards the land Whose pleasures persist. I am like the watchman on the wall, Expecting, hour by hour, To see dawning the dear jubilee Of my great victory; The pleasures of the earth having fled, All desires together as one, Without one interest below the sky But great Jesus Himself. And thinking about the company of heaven, And thinking about the work I shall have there while the whole vast Eternity rolls out. Amidst a company numerous as the stars, Fully shining above the sky, Blending love towards Him Who died on the tree. :: The pleasures of the world :: Pleasures of a world together as one :: in agreement - - - - - (Strength to the failing) Oh come, pure Holy Spirit, Strengthen my weary feet; And give me a bright, clear glimpse, Of the delightful land of my country. Grant strength to walk for thy praise, And for thee henceforth live; And spend my life with a taste For extolling the grace of my God. O close my eyes, lest I see The empty pleasure of the world; Do not let me veer ever from Thy holy, precious paths.tr. 2014,19 Richard B Gillion |
|