O! tywallt i'n calonnau ni Dy ras o'r nef i lawr, Fel gallom, megis plant i Ti, Dy garu, Arglwydd mawr. Fe ddaeth y newydd da i ddyn, Trwy enau angel nef, Y deuai d'anwyl Fab dy Hun Yn un â'i natur Ef. Er mwyn ei ddïoddefaint drud, A'r groes fu'n ei dristáu, Dysg inni farw'n awr i'r byd A'i holl fwynderau brau. Trwy rinwedd ei anfeidrol gur Dwg ni ymlaen i'r nef, I fywyd gogoneddus pur Ei atgyfodiad Ef.William Morgan (Penfro) 1846-1918 Tôn [MC 8686]: Brooklyn (W H Havergal / L Mason) |
O pour into our hearts Thy grace down from heaven! That we may, like thy Children, Love Thee, great Lord. The good news came to man, Through the mouth of an angel of heaven, That thy dear Son Himself would come As one with His nature. For the sake of his costly suffering, And the cross which made him sorrowful, Teach us to die now to the world And all its fragile pleasantness. Through the merit of immeasurable pain Bring us onwards to heaven, To the pure, glorious life Of His resurrection.tr. 2018 Richard B Gillion |
|