O uchder heb ei faint

(Cyfoeth yn Nuw)
  O! uchder heb ei faint,
    O! ddyfnder heb ddim rhi',
  O! led a hyd heb fath,
    Yw'n heichydwriaeth ni:
Pwy ŵyr, pwy ddwed - seraffiaid, saint,
O'r ddaear_i'r nef,
      beth yw fy mraint?

  Mae'r ddaear a'i holl swyn
    Oll yn diflannu'n awr;
  A'i themtasiynau cry'
    Sy'n cŵympo'n llu i'r llawr;
Holl flodau'r byd
      sydd heb eu liw;
'D oes dim yn hyfryd ond fy Nuw.

  Mae haul a sêr y rhod
    Yn darfod oll o'm blaen;
  Mae twllwch dudew'n dod
    Ar bopeth hyfryd glân:
Fy Nuw ei Hun sy'n hardd, sy'n fawr,
Ac oll yn oll mewn nef a lawr.
William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
Cei Newydd (W Matthew Williams 1885-1972)
Crofts 136th (William Croft 1678-1727)
Dolgellau (alaw Gymreig)
Rehoboth (W Pencerdd Williams 1856-1924)

(Riches in God)
  Oh height beyond measure,
    Oh depth without any number,
  Oh breadth and length beyond compare,
    Is our salvation:
Who knows, who can tell - seraphs, saints,
From the earth to the heaven,
      what is my privilege?

  The earth and all its enchantment is
    All disappearing now;
  And its strong temptations
    Are falling as a host to the ground;
All the flowers of the world
      are without their colour;
There is nothing delightful but my God.

  The sun and stars of the sky
    Are fading all before me;
  A thick, black darkness is coming
    On every holy, delightful thing:
My God Himself is beautiful, is great,
And all in all in heaven and earth.
tr. 2012 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~