O! Wele'r dyrfa lon Ger bron yr orsedd lân; Cyduno maent i foli'r Ion Yn gyson, fawr a mân. Tarawant yn gytun Bob telyn yn y lle, Gan seinio'n gu ryw newydd gân O foliant iddo 'Fe. Beth bynag fu eu rhan Tra yn yr anial fyd, Un testyn heddyw sydd i'r gân - Un gwaith i'r dyrfa i gyd. [Ar fôr a wydyr glân Saif heirdd gantorion nef, A seiniant glodydd Mab y dyn Mewn Haleliwia gref.] Nesâu mae'r ddedwydd awr Cawn ninau fyn'd i'w plith, I seinio'r anthem, yn ddiboen, I Dduw a'r Oen dros byth. Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tonau [MB 6686]: |
O see the joyful throng Before the holy throne! They are joining to praise the Lord Constantly, great and small. The strike in agreement Every harp in the place, While sounding fondly some new song Of praise unto Him. Whatever was their lot While in the desert world, One theme today is their song - One work to all the throng. [On a sea of pure glass Stand splendid singers of heaven, Who sound the praises of the Son of man In a strong Hallelujah.] Nearing is the happy hour When we may go among them, To sound the anthem, untiringly, To God and the Lamb for ever. tr. 2010 Richard B Gillion |
|