Oddiar ei orsedd yn y nef

(Gwyn eu byd y Meirw)
Oddiar ei orsedd yn y nef
  Mae Duw a'i lef yn dadgan,
Mai dedwydd mewn anfarwol fro
  Yw'r meirw o hyn allan.

Y rhai, er teithio dan y groes,
  Yn niwedd oes a hunant
A'u pwys ar Grist, ein Harglwydd ni,
  Dderbynir i ogoniant.

Gorphwysant mewn dedwyddwch pur
  Oddiwrth eu cur
      a'u lludded,
Heb arnynt ofid, poen, na chlwy',
  Na newyn mwy, na syched.

Arweinir hwy gan Iesu gwiw,
  At ffrydiau byw o ddyfroedd;
Fel ffrwd lifeiriol yw eu hedd,
  Yn nwyfol wledd y nefoedd.
Robert Ellis (Cynddelw) 1812-75

Tôn [MS 8787]: Swansea (W D Samuel)

(Blessed are the Dead)
From his throne in heaven
  God declares with his voice,
That happy in an immortal region
  Are the dead from now on.

Those, despite travelling under the cross,
  Who at the end of the age sleep
Leaning on Christ, our Lord,
  Shall be received into glory.

They will rest in pure happiness
  Away from their ache
      and their exhaustion
With no grief, pain, or wound upon them,
  Nor any more hunger, or thirst.

They are led by worthy Jesus,
  Towards living streams of waters;
Like a flowing torrent is his peace,
  In the divine feast of heaven.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~