Odlau'r tyner engyl o'r ffurafen glir, Mwyn furmuron cariad hidlant dros y tir: Yn y nef gogoniant, hedd i ddynol-ryw; Ganwyd heddiw Geidwad, Christ yr Arglwydd yw! Yn y nef gogoniant, hedd i ddynol-ryw; Ganwyd heddiw Geidwad, Crist yr Arglwydd yw! Doethion gwylaidd ddaethant gyda'i seren ef, Holant yn addolgar ble mae' Brenin nef? Saif y seren nefol uwch y tlotaf grud; Acw yn y preseb mae Iachawdwr byd. Dros gopâu yr oesau tonni mae y gân; Seina rhwng mynyddoedd annwyl Cymru lân: Esgyn mae'r gogoniant, cylcha'r orsedd fry; Digyn mae'r tangnefedd, 'wyllys da i ni.John Morgan Howell 1855-1927 Tôn [6565T]: Llanbedr (L J Roberts 1866-1931) |
The verses of the tender angels from the clear firmament, Gentle murmurs of love stream across the land: In heaven glory, peace to human-kind; Today was born a Saviour Christ the Lord he is! In heaven glory, peace to human-kind; Today was born a Saviour Christ the Lord he is! Wise, modest ones who came with his star, Ask worshipfully where is the King of heaven? The heavenly star stands above the poorest crib; There in the manger is the Saviour of the world. Across the peaks of the ages the song is billowing; It sounds between the mountains of dear pure Wales: Ascending is the glory, it surrounds the throne above; Descending is the peace, good will to us.tr. 2015 Richard B Gillion |
|