Oll fel yr wyf heb ddadl i'w dwyn

Just as I am without one plea

Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn,
Ond iti farw er fy mwyn,
A'th fod yn galw arna'i'n fwyn,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Oll fel yr wyf, dan hyrddiau llu
O frwydrau ac amheuon du,
Ymladdau, ofnau, ar bob tu,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Oll fel yr wyf, tlawd, dall, a gwael,
Iechyd a golwg im i'w cael,
Ac i'm diwallu
    o'th ulud hael,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Oll fel yr wyf, Ti ni'm nacáu, -
Croesewi fi, maddeui 'mai;
Gan gredu yn dy air y gwnai,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Oll fel yr wyf, (dy gariad fu'n
Symud y rhwystrau bob yr un)
I fod yn eiddot Ti dy Hun,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Oll fel yr wyf, tra
    fwy'n y byd,
Ac yna fry, i brofi "hyd,
Lled, dyfnder, uchder" cariad drud,
  'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
cyf. Sir John Morris-Jones 1864-1929

Tonau [8886]:
Gwyneth (John Price 1857-1930)
Misericordia (Henry Smart 1813-79)

gwelir:
  Dof fel yr wyf 'does gennyf fi
  Dof fel yr wyf heb unrhyw gri
  Fel fel yr wyf 'n awr atat Ti

All as I am, with no argument to bring,
But that thou diedst for my sake,
And that thou art calling upon me softly,
  I am coming, gentle Lamb.

All as I am, under a host of pushings
From battles and black doubts,
Fightings, fears, on every side,
  I am coming, gentle Lamb.

All as I am, poor, blind, and base,
Healing and sing for me to get,
And for me to be satisfied
    with thy generous wealth,
  I am coming, gentle Lamb.

All as I am, Thou wilt not refuse, -
To welcome me, forgive my fault;
Believing in thy word I shall be,
  I am coming, gentle Lamb.

All as I am, (thy love has
Removed the obstacles every one)
To being Thy own possession,
  I am coming, gentle Lamb.

All as I am, while ever
    I am in the world,
And then above, to prove the "length,
Breadth, depth, height" of precious love,
  I am coming, gentle Lamb.
tr. 2017 Richard B Gillion
Just as I am, without one plea,
But that Thy blood was shed for me,
And that Thou bidst me come to Thee,
  O Lamb of God, I come, I come.

Just as I am, though tossed about
With many a conflict, many a doubt,
Fightings and fears within, without,
  O Lamb of God, I come, I come.

Just as I am, poor, wretched, blind;
Sight, riches, healing of the mind,
Yea, all I need
    in Thee to find,
  O Lamb of God, I come, I come.

Just as I am, Thou wilt receive,
Wilt welcome, pardon, cleanse, relieve;
Because Thy promise I believe,
  O Lamb of God, I come, I come.

Just as I am, Thy love unknown
Hath broken every barrier down;
Now, to be Thine, yea, Thine alone,
  O Lamb of God, I come, I come.

Just as I am, of that free love
The breadth, length, depth,
    and height to prove,
Here for a season, then above,
  O Lamb of God, I come, I come!
1835,6 Charlotte Elliott 1789-1871

Tunes [8886/(8888)]:
Gwylfa (D Lloyd Evans)
Misericordia (Henry T Smart 1813-79)
Woodworth (William B Bradbury 1816-68)
Saffron Walden (Arthur H Brown 1830-1926)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~