Oruchel Lywydd nef a llawr, Rhown i Ti fyth fawrhad; Ti sydd anfeidrol nerthol Nêr, Ac annwyl dyner Dad; Tad Tragwyddoldeb, Tad pob dawn Yn rasol gawn trwy'n hoes i gyd; Mae calon Tad tu ôl i'r fraich Sy'n cynnal baich y byd. Tad holl angylion nefoedd fry, A llu tylywthau'r llawr: Tadolaeth ydyw gryn a gwres Y fynwes ddwyfol fawr; Meddyliau hedd a lifa i maes Ohoni'n ras i'n daear ni; Aeth llanw cariad tadol Iôr Yn fôr dros Galfari! Mae'n Dad sy'n hoffi maddau bai I'r euog rai yn rhad, Dilea bob halogrwydd blin Trwy rin y dwyfol waed; Mae'n cydymdeimlo gyda'r gwan, Fe'i deil i'r lan er pob ryw loes; Gwna'r brwnt yn lân a'r gwan yn gryf - Yn gryf o dan y groes.John Hughes (Glanystwyth) 1842-1902
Tonau [8686.8886]: |
Supreme Governor of heaven and earth, We render to Thee forever majesty; Thou art an immeasurable, strong Lord, And a dear, tender Father; The Father of Eternity, the Father of every gift Which graciously we have throughout all our life; The Father's heart is behind the arm Which supports the burden of the world. The Father of all the angels of heaven above, And a host of tribes of earth below: Fatherhood is the thrust and heat Of the great divine breast; Thoughts of peace shall flow out Of it as grace to our earth; A flood of the love of the Fatherly Master went As a sea over Calvary! It is our Father who loves to forgive fault For the guilty one freely, Deleting every wearying defilement Through the merit of the divine blood; He sympathises with the weak, He will hold up despite every kind of pang; He will make the dirty clean and the weak strong - Strong under his cross.tr. 2015 Richard B Gillion |
|