Os rhaid yfed dyfroedd Mara, Mewn anial blin tra paro 'ngyrfa, O nertha di, (fy Nhad, a'm Harglwydd,) Fy ysbryd gwan mewn byd o dramgwydd. [DM] Er cael fy nghuro yn nhrigfau dreigiau, Suddo'n fynych dan y tonau; Fe ddaw'r hyfryd ddedwydd wawr-ddydd, Na welir t'wyllwch yn dragywydd. [G1] Yno y derfydd fy nghystuddiau, Troir fy ngalar yn ganiadau; Yn lle Mara a'i dw'r anhyfryd, Câf yfed byth o afon bywyd. [MR] Doed a ddelo, tra b'wyf yma, Rho'f fy hun yn llaw Jehofa: Efe yw Ffynnon iechydwriaeth, Sy'n golchi'n lân bob llygredigaeth. [G1] O na welwn ddydd yn dyfod, I'm henaid eiddil gael gollyngdod, O swn y rhyfel a'r cystuddiau, A myn'd i mewn i'r pur drigfanau. [G1] Gwlad tu hwnt i gyraeddiadau, Satan ddewr a'i demtasiynau; Sydd wedi ei rhoddi yn yr arfaeth I'm henaid gwan yn etifeddiaeth. [G1] - - - - - Os rhaid yfed dyfroedd Mara Mewn anial blin tra paro 'ngyrfa: O nertha di, fy Nhad a'm Harglwydd, F'yspryd gwan mewn byd o dramgwydd. [DM] Daccw'r ffynnon bur hawddgara', A gannodd filoedd fel yr eira, Daccw'r dwr'r mi gwympaf iddo, A deued i mi fel y delo. [G3] 'Rwy' fi'n myn'd i wlad i drigo, Lle mae gloyw hedd yn llifo, At gyfeillion mil mwy hawddgar, Na neb a welwyd ar y ddaear. [G3] Yno y derfydd fy nghystuddiau, Troir fy ngalar yn ganiadau; Yn lle Mara a'i dw'r anhyfryd, Câf yfed byth o afon bywyd. [MR] - - - - - Os rhaid yfed dyfroedd Mara, Yn yr anial ar fy ngyrfa, Nertha di, fy Nhad a'm Harglwydd, F'ysbryd gwan mewn byd o dramgwydd. [DM] Er fy nghuro 'n nhrigfa dreigiau, Suddo'n fynych dan y tonau; Fe ddaw'r hyfryd ddedwydd wawrddydd, Heb dywyllwch yn dragywydd. [MD] Yna derfydd fy nghystuddiau, Troir fy ngalar yn ganiadau; Yn lle Mara ddŵr anhyfryd, Yfed câf o afon bywyd. [MR] - - - - - Os rhaid yfed dyfroedd Marah Yn yr anial ar fy ngyrfa, Nertha Di, fy Nhad a'm Harglwydd, F'ysbryd gwàn mewn byd o dramgwydd. [DM] Tra rhaid imi wisgo'r arfau, Dwyn y groes trwy orthrymderau, Rho Dy gwmni - dyna ddigon, Nes myn'd adre' i wisgo'r goron. [G2] Yno derfydd fy nghystuddiau, Troir fy ngalar yn ganiadau; Yn lle Marah, ddwfr anhyfryd, Yfed gâf o afon bywyd. [MR] 'N awr wrth gofio'r hên Iorddonen, F'enaid athrist gân yn llawen, Âf ar fỳr i'r wlad na dderfydd Llawn orfoledd yn dragywydd. [MR]DM: David Morris 1744-91 G1: Grawn-Sypiau Canaan 1805 G2: Grawn-Sypiau Canaan 1806 G3: Grawn-Sypiau Canaan 1829 MD: Casgliad Morris Davies 1835
Tonau [88.88]: gwelir: Doed a ddelo tra b'wyf yma Milwr ydwyf sydd ofidus |
If I must drink the waters of Mara, In a grievous desert while my course continues, O strengthen thou, (my Father and my Lord,) My weak spirit in a world of transgression. Although getting beaten in the dwellings of dragons, Sinking often under the waves; The delightful, happy dawn of day shall come, When darkness is not to be seen for eternity. Then shall end my afflictions, My lamenting is to be turned into songs; Instead of Mara and its unpleasant water, I shall get to drink forever from the river of life. Come what may, while ever I live here, I will put myself in the hand of Jehovah: He is the Fount of salvation, That washes clean all corruption. O that I may see a day coming, For my feeble soul to get release, From the sound of the war and the afflictions, And go into the pure dwellings. A land beyond the reaches, Of bold Satan and his temptations; Which is appointed in the scheme For my weak soul as an inheritance. - - - - - If I must drink the waters of Mara In a grievous desert while my course continues, O strengthen thou, my Father and my Lord, My weak spirit in a world of transgression. Yonder is the pure, most beautiful fount, Which bleached thousands like the snow, Yonder is the water I will fall into, And let come to me what may. I am going to a land to reside, Where shining peace is flowing, To friends a thousand times more handsome, Than any seen on the earth. There shall end my afflictions, My lamenting is to be turned into songs; Instead of Mara and its upleasant water, I shall get to drink forever from the river of life. - - - - - If I must drink the waters of Mara In the desert on my course, Strengthen thou, my Father and my Lord, My weak spirit in a world of transgression. Although being beaten in a dwelling of dragons, Sinking often under the waves; The delightful, happy dawn of day shall come, Without darkness eternally. Then shall end my afflictions, My lamenting is to be turned into songs; Instead of Mara's unpleasant water, I shall get to drink from the river of life. - - - - - If I must drink the waters of Marah In the desert on my course, Strengthen Thou, my Father and my Lord, My weak spirit in a world of transgression. While I must wear weapons, Carry the cross through oppressions, Grant thy company - that is sufficient, Until I go home to wear the crown. There shall end my afflictions, My lamenting is to be turned into songs; Instead of Marah, unpleasant water, I shall get to drink from the river of life. Now on remembering the old Jordan, My sad soul will sing joyfully, I will go shortly to the land that will not end Full of jubilation eternally.tr. 2017 Richard B Gillion |
|