Os serth yw'r rhiw a garw yw'r daith Oddiyma i "Dy fy Nhad," 'Rwy'n canu nodyn ambell waith, 'Rwyf ar y ffordd i'r wlad. Os yw Caersalem lân yn mhell, Ni chwynaf mewn tristhâd; 'Rwy'n dod i gerdded dipyn gwell, Ac ar y ffordd i'r wlad. Arweinied Duw'm crwydredig draed Nes cyrraedd yr ystâd, A brynwyd im â gwerthfawr waed Y Gwr sy'n Ben y wlad.Aaron Morgan, Blaenffôs.
Tonau [MC 8686]: |
If steep is the hill and rough is the journey Away from "my Father's House," I am singing a note many a time, I am on the way to the land. If holy Jerusalem is distant, I shall not complain in sadness; I am coming to walk a little better, And on the way to the land. May God guide my wandering feet Until reaching the estate, Which was purchased for me with the precious blood Of the Man who is Head of the land.tr. 2015 Richard B Gillion |
|