Os ydwyf wael fy llun a'm lliw
'Rwy'n wael fy ngwedd a du fy lliw

("Ac yr wyf gadarn i iacháu")
1,(2,3,(4)).
Os ydwyf wael
    fy llun a'm lliw,
  Os nad yw 'mriw'n gwellhau,
Af at y meddyg nawr ei fri
  Sy'n gadarn i iacháu.

O'm pen i'm traed 'r wy'n glwyfus oll,
  Pob archoll yn dyfnhau:
Neb ond y Meddyg Da i mi,
  Sy'n gadarn i iacháu. 

Os wyf heb rym i ddim sydd dda,
  Dan bwys fy mhla'n llesgáu,
Rhydd Iesu gryfder i'r di-rym;
  Mae'n gadarn i iacháu.

O ddydd i ddydd
    caf nerth i ddal;
  Mae'i ras yn amalhau:
Am hyn nid anobeithiaf ddim,
  Mae'n gadarn i iacháu!

              - - - - -

'Rwy'n wael fy ngwedd a du fy lliw,
  Nid yw fy mriw'n gwellau;
Af at y Meddyg mawr ei fri
  Sy'n gadarn i iachau.

Af dan fy nghlwyfau ato' nes
  I gael fy esmwythau;
Mae Ef, os afiach ydwyf fi,
  Yn gadarn i iachau.

Er bod y pen yn glwyfus oll,
  A'm harcholl yn dyfnhau,
Crist yw y Meddyg Da i mi -
  Mae'n gadarn i iachau.

Y gwanaf un o'r gweiniaid wy'
  Dan bwys fy nghlwy'n llesgau:
Ond nerth a rydd
    i rai dirym -
  Mae'n gadarn i iachau.

Rhyw dôn ar dôn, a chroes ar groes,
  Fy einioes sy'n tristau;
Er hyn nid annobeithiaf ddim -
  Mae'n gadarn i iachau.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd) 1802-1863

Tonau [MC 8686]:
Ballerma (F H Barthélémon 1741-1808)
Bangor (William Tans'ur 1706-83)
Engedi (o Beethoven)
Maengwyn (Ifor ap Gwilym)
Martyrdom (J Wilson 1800-49)
Miles Lane (William Shrubsole 1760-1806)
St Bernard (1741 Tochter Sion)
St George (Nikolaus Hermann 1500-61)
St Magnus (Jeremiah Clarke 1668-1707)
Winchester Old (1592 Sallwyr Este)
York (Scottish Psalter 1615)

("And I am strong to save")
 
If I am wretched
    in my appearance and my colour,
  If my wound is not getting better,
I will go to the esteemed physician now
  Who is strong to save.

From my head to my feet I am all diseased,
  Every wound deepening:
None but the Good Physician for me,
  Is strong to save.

If I am without strength for anything good,
  Languishing under the weight of my plague,
Jesus will give strength to the strengthless;
  He is strong to save.

From day to day
    I will get strength to continue;
  His grace is abounding:
For this I will not despair at anything,
  He is strong to save!

                  - - - - -

I am poor in condition and black my colour,
  My wound is not healing;
I will go to the greatly esteemed Physician
  Who is strong to save.

I will go under my diseases next to him
  To get relieved;
He is, if I am unhealthy,
  Strong to save.

Although the head is all sick,
  And my wound deepening,
Christ is the Good Physician to me -
  He is strong to save.

The weakest one of the weak am I
  Under the weight of my sickness fainting:
But strength he will give
    to those without force -
  He is strong to save.

Some wave upon wave, and cross upon cross,
  Are saddening my lifespan;
Despite this I will not lose hope at all -
  He is strong to save.
tr. 2009,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~