Os ydwyt dan y groes

(Cysur y Saint)
Os ydwyt dan y groes,
  Mewn loes, ymron diffygio;
Gorffwysfa gei yn ninas Iôn,
  A choron am ei chario.

Dan holl ofidiau'r daith,
  Mae gobaith yn dy buro;
Cei fod cyn hir
    mewn nefol fyd -
  Yn ddifrycheulyd yno.

Cei, wedi'r
    cystudd dwys,
  Dragwyddol bwys gogoniant;
Ar ol dy fỳr, dymhestlog ddydd,
  Diddiwedd fydd dy fwyniant.
H Penmaen
Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd 1921

Tôn [MBC 6787]: Glasfryn (J Ambrose Lloyd 1815-74)

(The Comfort of the Saints)
If thou art under the cross,
  In anguish, almost failing;
Rest thou shallt get in the Lord's city,
  And and a crown for loving him.

Under all the cares of the journey,
  There is hope purifying thee;
Thou shalt get to be before long
    in a heavenly world -
  Unblemished there.

Thou shalt get, after the
    intense affliction,
  An eternal weight of glory;
After thy short, tempestuous day,
  Endless shall be thy enjoyment.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~