Pa beth ydyw'r canu melysber, A glywaf yn uchder y nef? Pwy ydyw'r cerddorion uwch daear, Mor seingar a llafar eu llef? Cydganodd sêr bore'r greadigaeth Eu llafar buroriaeth yn llon, Ond nid mor nefolaidd, pe'i clywsem, Nac eilfydd eu hanthem i hon. Côr nef yn emynu caniadau, A'u cariad a'u doniau yn dân; Nadolig y Bachgen tragwyddol Yw testun eu carol a'u cân: "Gogoniant i Dduw'n y goruchaf, Y nefol sancteiddiaf Dri'n Un, Ewyllys da'r Arglwydd maddeugar, A hedd ar y ddaear i ddyn." Cydunwn, blant Eglwys Gaersalem, Yn anthem bêr Bethlem bob un, Rhyfeddwn sancteiddiaf ddyfodiad Ein Ceidwad yn Dduw ac yn Ddyn; Ei neges oedd dwyn y pechadur O gyflwr ei natur i'r nef; Ein hannwyl eneiniog Achubwr, Yr Iesu Waredwr yw ef. Disgynodd o'r nef a'i mwynderau I fyd y gofidiau o'i fodd; Rhoes heibio'i ogoniant difrychau, Ac yn y cadachau ymdôdd: Bwriadai mewn arfaeth dragywydd Ein gwared o'n cystudd a'n cam; O! gwel Ef mor ddiddig, mor addfwyn, Ar liniau y Forwyn y Fam! I'r ddaear o ganol angylion Gostynga'i olygon i lawr, O ddymuniad i wneud ei phreswylwyr Iddo'i Hunan yn frodyr ryw awr; Ymwelai â'n daear yn ddirgel Yn rhith a dull angel ein Duw; O'r diwedd Fe ddaeth yn ein natur Yn Frawd at ei frodyr i fyw. Nid byth yn nhref Bethle'm y trigi, Rhaid iddi, Grist, golli'th deg wedd; Rhaid it' gerdded o amgylch yn ddiwyd Nes myned o'r bywyd i'r bedd: Gwna 'nghalon yn gartre' trag'wyddol, Yn drigfa feunyddiol, fy Nuw, Na ad fy serchiadau'n amddifaid, Na symmud o f'enaid i fyw. Ewyllys da'r Arglwydd :: 'Wyllys da'r Hollalluog y Fam :: ei Fam Morris Williams (Nicander) 1809-74
Tonau [9898D]: |
What is the sweet singing, I hear in the height of heaven? Who are the musicians above the earth, So tuneful and loud their voice? The stars of the morning of creation chorussed, Their loud, sweet music cheerfully, But not so heavenly as, if I could hear, Nor comparable their anthem to this. The choir of heaven hymning songs, With their love and their gifts a fire; The Nativity of the eternal Son Is the theme of their carol and their song: "Glory to God in the highest, The heavenly, holiest Three in One, The good will of the forgiving Lord, And peace on the earth to men." Let us join, children of the Church of Jerusalem, In the sweet anthem of Bethlehem, every one, Let us wonder at the holiest coming Of our Saviour as God and as Man; His mission was to bring the sinner From the condition of his nature to heaven; Our beloved, anointed Rescuer, Jesus the Deliverer is he. He descended from heaven with his meeknesses To the world of griefs voluntarily; He laid aside his spotless glory, And in nappies he was moulded: He would intend in an eternal scheme To deliver us from our affliction and our mistake; O see him to calm, so gentle, On the knees of the Virgin the Mother! To the earth from amongst angels He bowed his sight down, From a wish to make its residents Brothers to Himself some hour; He would visit our earth secretly In the guise and mode of an angel of our God; End the end He came in our nature As a Brother to his brothers to live. Not forever in the town of Bethlehem to dwell, Thou hadst to, Christ, lose thy fair countenance; Thou hadst to walk around diligently Until going from life to the grave: Make my heart an eternal hme, A daily dwelling, my God, Do not leave my defenceless affections, Nor move from my soul to live. The good will of the ... Lord :: The good will of the ... Almighty the Mother :: his Mother tr. 2016 Richard B Gillion |
|