Pa beth yw'r golau mawr a glân?

Pa beth yw'r golau mawr a glân
  Uwch llewyrch haul y nef?
Pa beth yw sŵn yr hyfryd gân
  Gerllaw hen Fethle'm dref?
Angylion nef a ddaeth i lawr
  O lys yr uchel Dduw,
I ddatgan geni Ceidwad mawr,
  I achub dynol ryw.

A dyna'r gân –
    "Na foed i'ch bron
  Un ofn ar hyn o bryd,
Mynegi 'rwyf newyddion llon
  A berthyn i'r holl fyd,
Cans ganwyd Ceidwad
    teg ei wedd
  Yn ninas Dafydd wiw,
Yr hwn yw Crist" –
    hardd Frenin hedd
  A Mab y bythol Dduw.

A hyn yw'r arwydd wrth ba un
  Y gwelwch Faban Iôr,
Mae wedi ei rwymo'n wael ei lun
  A'i ben ar wellt y côr:
Efe yw'r gwaelaf yn y dref,
  Ni welwyd neb mor dlawd,
Er hyn i gyd mae'n Frenin nef,
  Mae'n Dduw er bod mewn cnawd.

Ar hyn dyrchafodd lleisiau fil
  Yn gydgor fwyn i'r gân,
O gariad at y ddynol hil
  A mawl i'r Baban glân;
"Gogoniant yn yr uchel nef
  I'r Duwdod mawr ei hun,
Tangnefedd ar y ddaear gref,
  Ewyllys da i ddyn."

I Faban Mair, a ddaeth yn dlawd
  Er dwyn in' olud nef; –
I'r unig Dduw a ddaeth mewn cnawd,
  Dyrchafwn ninnau lef
O fawl – a rhoddwn goron cân
  Yn barchus ar ei ben,
Mae'n haeddu y gogoniant glân
  A'r moliant byth – Amen.
John Williams (Ab Ithel) 1811-62

Tôn [MCD 8686D]: Glan Camlad (traddodiadol)

What is the great and holy light
  Above the brightness of heaven's sun?
What is the sound of the delightful song
  Near the old town of Bethlehem?
The angels of heaven have come down
  From the court of the high God,
To declare the birth of a great Saviour,
  To save human kind.

And this is the song -
    "May your breast not be
  A fearful one at this time,
I am expressing cheerful news
  Which belongs to the whole world,
Since a Saviour of fair
    countenance was born
  In the the worthy city of David,
He is the Christ" -
    the beautiful King of peace
  And the Son of the everlasting God.

And this is the sign by which
  You shall see the Baby Lord,
He is bound in a lowly appearance
  With his head on the straw of the stall:
He is the lowliest in the town,
  None was seen so poor,
Despite all this his is the King of heaven,
  He is God although in flesh.

Therefore a thousand voices were raised
  As a dear chorus to the song,
Of love to the human race
  And praise to the holy Baby;
"Glory in the high heaven
  To the great Trinity itself,
Peace on the strong earth,
  Good will to man."

To Mary's Baby, who became poor
  In order to bring us heaven's wealth; -
To the only God who came in flesh,
  Let us too raise a cry
Of praise - and let us put a crown of praise
  Reverently on his head,
He deserves the holy glory
  And the praise forever - Amen.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~