Pa beth yw'r mawl a'r canu mwyn?

Pa beth yw'r mawl a'r canu mwyn
  Cyn toriad gwawr y dydd?
Newyddion da sy'n cael eu dwyn
  Fod dyn yn awr yn rhydd.

    Ymunwn ninnau yma nawr
      Ar gyhoedd yn y gân,
    A seiniwn fwyn Hosanna fawr
      O glod i'r Baban,
              i'r Baban glân.

Dros lawer blwydd bu disgwyl blin
  Am weld y dwyfol Air;
Wel dacw'r Baban bach ar lin
  Y fwynaidd Forwyn Fair.

Mae Bethlem dir yn olau dân
  O naws gogoniant nef,
A'r lle i gyd yn llawn o gân
  Yn dweud ei gariad ef.

Hwn ydyw dwyfol had y wraig
  Addawyd fore'r byd;
Daeth i ysigo pen y ddraig,
  A'r preseb yw ei grud.

Efe yw'r Proffwyd, ef yw'r Sant,
  Gogoniant Israel Duw,
Efe yw Prynwr mawr ei blant
  A Christ yr Arglwydd yw.

Gadawodd wlad y nefol wledd,
  Yr ardal brydferth fry,
A daeth i boen,
        a'i daith i'r bedd,
  I'n dwyn yn ôl i'w dŷ.

Pan oedd bugeiliaid ar y rhos
  Yn gwylio'u defaid claf,
Yn olau nawn y daeth liw nos
  A'r gaeaf droes yn haf.

Tywynnai seren uwch y dref
  Fel lamp yn nhemel Duw
I ddatgan geni Brenin nef
  Yn Geidwad dynol-ryw.

Ehedai engyl disglair Iôn
  I lawr ar Fethlem dref,
A chanent ar soniarus dôn
  Ei gân Nadolig ef.

Gogoniant yn yr uchel sedd
  I enw mawr ein Duw,
Ac ar y ddaear hyfryd hedd
  O ras i ddynol-ryw.
John Williams (Ab Ithel) 1811-62

[Mesur: MCD 8686D]

What is the praise and the lovely singing
  Before the break of the dawn of the day?
Good news that is being brought
  That man is now free.

    Let us too join here now
      Publicly in the song,
    And let us sound a great lovely Hosanna
      Of acclaim to the Baby,
              to the holy Baby.

Over many a year there was weary waiting
  To see the divine Word;
See yonder is the little Baby on the knee
  Of the gentle Virgin Mary.

The land of Bethlehem is lit with fire
  From the touch of the glory of heaven,
And all the place is full of song
  Telling his love.

He is the divine see of the woman
  Promised in the world's morning;
He came to crush the head of the dragon,
  And the manger is his cradle.

He is the Prophet, he is the Holy One,
  The Glory of the Israel of God,
He is the great Redeemer of his children
  And Christ the Lord is he.

He left the land of the heavenly feast,
  The beautiful region above,
And came to pain,
        and his journey to the grave,
  To bring us back to his house.

When shepherds were on the heath
  Watching over their sick sheep,
Afternoon light the dark night became
  And the winter turned into summer.

Stars above the town shone
  Like a lamp in the temple of God
To announce the birth of the King of heaven
  As the Saviour of human-kind.

The radiant angels of the Lord flew
  Down upon the town of Bethlehem,
And sang to a resounding tune
  His Nativity song.

Glory in the high throne
  To the great name of our God,
And on the earth the delightful peace
  Of grace to human-kind.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~