Pa bleser tan y nen a gawn All rodi in' foddlonrwydd llawn? Pan syllwyf ar f'Anwylyd gwych, Pob peth sydd am y gwaela'i ddrych. Rhyfedd mor wael yw'r pethau sy Am ddenu' serch o'r nefoedd fry: Un wên o eiddo'm Prynwr drud Sydd gan-mil mwy na'r rhai'n i gyd. Paham myfyria'm henaid drud Ar gibau gwael, pleserau'r byd? A gadaw'r llo pasgedig rhad, A'r gloyw win yn nhŷ fy Nhad? Ffarwel i sorod sy'n y byd, A'm hen drigfanau oll i gyd; Tuag adre'r âf, er dwr a thân, Mae swn fy mrodr o fy mla'n. F'Anwylyd Iesu aeth ym mla'n, 'Nawr gyda'r dorf fel tywod mân; Mae'n gorphwys ar ddeheylaw 'Nhad, Yn dadleu iachawdwriaeth rad. Fe aeth â'm calon inau fry, Beth wneir o'm corph ar ddaear ddu? Gwnaf well gwasanaeth yn y nef, Pan byddwy'n llawn o'i gariad Ef.
William Williams 1717-91 [Mesur: MH 8888] |
What pleasure under the sky may we have That can give us full satisfaction? When I gaze on my wonderful Beloved, Everything is of the worst appearance. Amazing how poor are the things that are Trying to attract my affection from heaven above: One smile belonging my precious Redeemer Is a hundred thousand times greater than all those. Why shall my precious soul meditate On poor husks, the world's pleasures? And leave the free fattened calf, And the bright wine in my Father's house? Farewell to the dross that is in the world, And all my dwellings altogether; Towards home I shall go, despite water and fire, The sound of my brother is before me. My beloved Jesus has gone before me, Now with the throng like fine sand; He is resting at my Father's right hand, Arguing free salvation. He took my heart too above, What is to be made of my body on black earth? I shall make better service in heaven, When I am full of his love. tr. 2020 Richard B Gillion |
|