Pa bryd, O Iesu, caf fi fod Mewn anian llawn i ganu clod, Uwchlaw y byd, ar aden ffydd, A chwant dwad adre'n fwy bob dydd? Yn agos atat gad im' fod, Yn llawn o gariad f'enaid dod; Blaen-dast o'r nef, gad imi gael; Clyw, ateb fi, O Iesu hael! Gwna i dy gariad, Arglwydd glān, I losgi ynof megis tān: Glanha fy enaid, deisyf 'rwyf, Pura fi, Arglwydd, gwella'm clwyf. Fy mhechod lladd, nac arbed un, Dy ddelw arnaf dod, a'th lun; I lawr a Satan, dan fy nhraed, Clyw, ateb fi, O f'anwyl Dad! O tyr'd, gwna hyn o waith ar fyr, Fy holl gadwynau, Iesu, tyr; Dechreuad gwan dwg Di i ben, O'm calon 'rwyf yn dweyd, - Amen.William Williams 1717-91 [Mesur: MH 8888] |
When, O Jesus, shall I get to be In a full nature to sing praise, Above the world, on wings of faith, With a desire to come home greater every day? Nearer to thee let me be, Full of love may my soul become; A foretaste of heaven, let me have; Hear, answer me, O generous Jesus! Make thy love, holy Lord, Burn in me like a fire: Cleanse my soul, I plead, Purify me, Lord, heal my wound. Kill thou my sins, nor save one, Thy image in me put, and thy likeness; Down with Satan, under my feet, Hear, answer me, O my dear Father! O come thou, do this work shortly, All my chains, Jesus, break thou; A weak beginning bring thou to an end, From my heart I am saying, - Amen.tr. 2023 Richard B Gillion |
|