Pa le (Y gwnaf fy noddfa dan y ne')?
P'le P'le (Y gwnaf fy noddfa dan y ne')?

1,2,(3).
    Pa le,
  Y gwnaf fy noddfa dan y ne',
  Ond yn ei glwyfau anwyl e',
Y bicell gref aeth tan Ei fron,
  Agorodd ffynnon i'm glanhau;
'Rwy'n llawenhau fod lle yn hon.

    Gwych sain
  Fydd eto am y goron ddrain,
  Yr hoelion llym, a'r bicell fain,
Wrth gofio 'rhai'n
        caiff uffern glwy':
  Cadwynau tynion ânt yn rhydd;
Fe gaed y dydd - Hosanna mwy.

    Golch fi
  Oddi wrth fy meiau aml eu rhi'
  Yn afon waedlyd Calfari,
Sydd heddyw'n llif o haeddiant llawn;
  Dim trai ni welir arni mwy,
Hi bery'n hwy
        na bore a nawn.
Pa le :: P'le, p'le

John Roberts 1753-1834 neu Hugh Jones 1749-1825
Diferion y Cyssegr 1809

1-2: Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
3 : Emynau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883

Tôn [288.888]: Dorcas (D J James 1743-1831)

gwelir:
  Gras gras (Yn genllif grymus ddaeth i maes)
  Gwych sain (Fydd eto am y goron ddrain)
  Mae mae (Y dydd yn d'od i'r duwiol rai)
  O tyn (Y gorchudd yn y mynydd hyn)

    Where
  Shall I make my refuge under heaven?
  But in his dear wounds,
The strong spear went under His breast,
  A fount was opened to cleanse me;
I am rejoicing that there is room in this.

    A brilliant sound
  Shall yet be about the crown of thorns,
  The sharp nails, and the acute spear,
On remembering those
        getting a hellish wound:
  Tight chains went free;
The day was got - Hosanna evermore.

    Wash me
  From my faults of manifold number
  In the bloody river of Calvary,
Which is today a flood full of merit;
  No ebbing is to be seen upon it ever,
It shall endure longer
        than morning and evening.
Where :: Where, where

tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~