Paham y sefi draw O! Dduw'r Achubydd? Paham mae'th rymus law Mor hir yn ymgudd? Mae'r gelyn yn cryfhau, Pechodau'n amlhau, A'th bobl yn llesghau Mewn ofnau beunydd. Pa bryd y daw y dydd, Y cawn dy weled? Pa bryd cawn fyn'd yn rhydd O'r blin gaethiwed? O! tyred, Arglwydd cu! Fel yn y dyddiau fu, Rho brawf dy fod o'n tu, Ac yn ein gwared. Pan y dychwelaist Ti Gaethiwed Seion, Llawenydd redai'n lli I'w chlwyfus galon: Rho ninau eto'n rhydd, Gwna'n llawen deulu'r ffydd, A'th fawl yn helaeth fydd, Waredydd tirion! cawn fyn'd :: yr awn I'w chlwyfus :: A lanwai'i Owen Griffith (Alafon) 1847-1916
Tonau [6565.6665]: |
Why wilt thou stand afar O God the Saviour? Why is thy strong hand So long hiding? The enemy is growing strong, Sin multiplying, And thy people growing feeble In fears daily. When shall the day come, When we may see thee? When may we go free From the grievous captivity? O come, dear Lord! As in the former days, Give an experience that thou art on our side, And delivering us. When thou didst restore The captivity of Zion, Joy ran as a flood To her wounded heart: Set us free again, Make joyful the family of faith, And thy praise shall be widespread, Tender Deliver! may we go :: shall we go To her wounded :: And filled her tr. 2020 Richard B Gillion |
|