P'am, Arglwydd, yma, p'am mae draw, Ryw elyn marwol ar bob llaw - Pleser a gofid bob yn ail, Yn tỳnu'm llygaid, tỳnu'm bryd, At yr wrthrychau sy'n y byd - Rhyw dwyll disylwedd a di-sail? Trwy darth, trwy niwl, mi wela'r fąn Ddymunai'm henaid gael i'w rąn - Ardaloedd grās, ardaloedd hedd; Y wlad mae cariad pur di-drai, Fel afon, yn ei dyfrhau, Tu hwnt i angeu du a'r bedd. Myfi gāf yno'n dawel fyw Uwch brād gelynion o bob rhyw - Uwch pob rhyw drafferth, pob rhyw wae: Caf dreulio tragwyddoldeb mwy I ganu am ei ddwyfol glwy', Mewn anthem fythol i barhau. Pwy a chwennychai fyw'n y byd Sy'n dwyll, sy'n drafferth trwyddo i gyd - Mil mwy ei ofid nag ei flās, Yn lladd o hyd, heb fyth fywhau, A'i groesau trymion yn parhau? O! am drigfanau nefol rās.William Williams 1717-91
Tonau [888.888]: |
Why, Lord, here, why is there yonder, Some mortal enemy on every hand - Pleasure and grief alternately, Drawing my eyes, drawing my attention, To the objects that are in the world - Some insubstantial and baseless deception? Through mist, through fog, I see the place My soul would wish to get for its portion - Regions of grace, regions of peace; The land where there is pure unebbing love, Like a river, watering it, Beyond black death and the grave. I too shall get to live quietly there Above all kinds of enemies' treachery - Above every kind of trouble, every kind of woe: I shall get to spend eternity evermore Singing about his divine wound, In an anthem forever to endure. Who would desire to live in the world Which is a deception, which is altogether trouble throughout - With a thousand times more grief than enjoyment, Always killing, without ever reviving, And its heavy crosses enduring? O for the dwellings of heavenly grace!tr. 2021 Richard B Gillion |
|