[Paham yn / Pam byddwn] brudd o amgylch bedd?

("Na thristewch fel rhai heb Obaith.")
Pam byddwn brudd o amgylch bedd
Ein cyfaill hoff? - fe gwsg mewn hedd,
  Heb ddolur maith
      i'w ddylyn mwy,
  Na chystudd hir i'w
      wasgu'n hwy.

Yr enaid aeth i'r nefol dŷ,
At filoedd myrdd i foli fry,
  Lle gorphwys byth gerbron yr Oen
  Yn berffaith rydd oddiwrth ei boen.

Nesâu ar frys mae'r ddedwydd awr,
Pan glywo'r meirw'r udgorn mawr,
  Pan adgyfodo'r saint i gyd
  I foli Duw dros byth yn nghyd.

              - - - - -

Paham yn brudd o amgylch bedd
Ein cyfaill hoff? fe gwsg mewn hedd,
  Heb ddolur maith
      i'w ddylyn mwy,
  Na chystudd hir i'w
      wasgu'n hwy.

Y llygaid fu yn wylo gynt,
Gan dristwch hallt, gwir sychion ynt;
  Ni lidia neb aelodau 'nawr,
  Gan bechod mwy, neu boenau mawr.

Yr enaid aeth i'r nefol dŷ,
At filoedd myrdd i foli fry,
  Lle gorphwys byth odd'wrth ei boen
  Yn berffaith iawn ger bron yr Oen.

Pan glyw y meirw'r udgorn mawr,
Fe gwyd y llwch o dàn y llawr;
  A'r corff fydd byw tu draw i'r bedd,
  Yn rhyfedd wych
      o ran ei wedd.
Benjamin Ffransis 1734-99

Tôn [MH 8888]:
Easton (<1845)
Llawr-y-glyn (John Ashton 1830-96)
Old Hundred (Louis Bourgeois 1510-72)
St Goar (Rhenfel's Hymnal)

("Do not be sad like those without Hope.")
Why are we sad around the grave
Of our dear friend? - he sleeps in peace,
  With no great sadness to
     follow him any more,
  Nor long affliction to
      press him any longer.

The soul has gone to the heavenly house,
To a myriad thousands to praise above,
  Where it rests forever before the Lamb
  Perfectly free from its pain.

Approaching hurriedly is the happy awr,
When the dead hear the great trumpet,
  When all the saints rise again
  To praise God forever together.

                - - - - -

Why sad around the grave
Of our dear friend? he sleeps in peace,
  With no great sadness
      to follow him any more,
  Nor long affliction to
      press him any longer.

The eyes that were formerly weeping,
With salty sadness, truly dry the are;
  No members are inflamed now,
  By sin any more, nor great pains.

The soul has gone to the heavenly house,
To thousands of myriads to praise above,
  Where it rests forever away from its pain
  Perfectly well before the Lamb.

When the dead hear the great trumpet,
The dust under the ground shall rise;
  And the body shall live beyond the grave,
  Wonderfully brilliant
      in terms of its appearance.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~