1,2,3,4; 1,3,4,5. Pa'm carai'r byd na'i wagedd mwy? Hyd angeu'n brin y deuant hwy; Gwell genyf garu'r ffrynd a ddaw, Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw. Pan byddwy'n myn'd o'r byd i maes, Yn siglo llaw âg angeu glas; Pryd hyn pwy help fy enaid gwan, I ddringo o'r anial fyd i'r lan? O'r dywyll wlad pan byddwy'n myn'd, Fy Iesu fydd fy ffyddlon ffrynd, Pa frawd, pa chwaer, pa gyfaill gwell, Ddaw'm hebrwng i'r ardaloedd pell. O cofia fi pan b'wy'n y bedd, A chasgla'm llwch i'r lan mewn hedd; O arddel fi'n y farn a ddaw, A gosod fi ar dy ddeheulaw. Ffarwell deganau gwag y byd, A'r holl ofidiau sy ynddo i gyd; Tu ag adre'r âf er dw'r a thân, Mae swn fy mrodyr o fy mlaen.William Williams 1717-91 priodolwyd hefyd i John Dafydd 1727-1783
Tonau[MH 8888]: gwelir: Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd Nid oes un gwrthddrych yn y byd Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan? Ymdeithydd wyf fi 'nawr o hyd |
Why shall I love the world or its emptiness any more? As far as death they will scarcely come; Better for me to love the friend who will come, In death to to hold of me by the hand. When I am going out from this world, Shaking hands with utter death; Then who will help my weak soul, To climb up from the desert world? From the dark land when I am going, My Jesus, be my faithful friend! What brother, what sister, what better companion, Will escort me to the distant regions? O remember me when I am in the grave, And gather my dust up in peace; O own me in the coming judgment, And set me at thy right hand! Farewell empty trinkets of the world, And all the griefs which are in it altogether; Towards home I go despite water and fire, There is the sound of my brothers ahead of me. tr. 2016,17 Richard B Gillion |
|