Pan āf i'r maes yn erbyn llu, Boed ar fy ne' dy allu di; Boed dy ddoethineb mawr dilyth Drachefn ar fy aswy byth. Fel gallwy'n wrol fyn'd yn mla'n, Trwy ganol dŵr, trwy ganol tān, Ac edrych yn wynebau llu Yn eon yn dy allu di. 'Does īs y nef a ddeil i'r lan, Ond ti dy hun fy ysbryd gwan; Nerth yw dy air, mae'n fwy ei rym Nag ellir ei wrth'nebu ddim. Mi āf yn mlaen, er t'wylled yw, Tua'r wlad 'rwyf am fyn'd iddi i fyw; Fe dor y wawr yr addewid bur Sy o wel'd fy nghartref cyn bo hir. 'Rwyn ofni'r bryniau uchel draw, A'r ffosydd ar fy neheu law; Ac nid oes ond dy Ysbryd Glān A'm harwain trwyddynt oll yn mlaen.
Tonau [MH 8888]: |
When I go forth against a host, Let thy power be on my right hand; Let thy great, unfailing wisdom be Again on my left hand forever. Thus I shall be able bravely to go on, Through the midst of water, Through the midst of fire, And look in the faces of a host Fearlessly in thy power. No-one under heaven but thee Thyself can hold up my weak spirit; Strength is thy word, it is of greater force Than anything is able to withstand. I shall go on, despite how dark it is, Toward the land where I am going to live; The dawn shall break of the pure promise That is to see my home before long. I am fearing the high hills yonder, And the ditches on my right hand; There is only thy Holy Spirit That leads me through them all onward. tr. 2021 Richard B Gillion |
|