Pan clywo'r Indiaid draw am loes Creawdwr nefoedd ar y groes, Rhinweddau hyfryd marwol glwy' Fydd sylwedd eu caniadau hwy. O! na foed ardal cyn b'o hir, O'r dwyrain draw i'r deheu dir, Na byddo'r iachawdwriaeth ddrud Yn llanw cỳrau 'rhai'n i gyd. Boed Iesu â'i annherfynol stôr Yn llanw'r tir, yn llanw'r môr, Ei ddoniau maith, a'i gariad drud, Yn sylfaen cysur pawb o'r byd. De'wch, addewidion, de'wch yn awr, Dihidlwch eich trysorau i lawr; Myrddiynau ar fyrddiynau sydd Yn disgwyl am eich boreu ddydd.William Williams 1717-91 Ffarwel Weledig 1763
Tonau [MH 8888]: gwelir: De'wch addewidion de'wch yn awr Fe dalodd Iesu'r dyled drud O na foed ardal cyn bo hir |
When the distant Indians hear about the anguish Of heaven's Creator on the cross, The delightful wonders of a mortal wound Shall be the theme of their songs. O that there would be no region before long, From the far East to the southern land, Without the costly salvation Flooding all its corners! May Jesus with his infinite store be Flooding the land, flooding the sea, His vast gifts, and his costly love, The foundation stone of the comfort of everyone of the world. Come, ye promises, come ye now, Drip down your treasure; Myriads upon myriads are Waiting for your morn of day.tr. 2016 Richard B Gillion |
|